成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwefan Wedi 7 Perlau Band Llydan
Bellach yn byw ym Manceinion, un o bleserau mawr Martin Llewelyn Williams o Ddeiniolen yw ymweld 芒 gwefan S4C i 'fwynhau yr arlwy - unrhyw le, unrhyw bryd'.
"Dyn radio yn hytrach na dyn y teli bocs ydwyf i ers misoedd lawer bellach. Ella i ddim meddwl am ddim byd mwy diflas a diog na sombirythu ar un rhaglen ar 么l y llall. Dod adref o'r gwaith. Bwyta fy nhe ac yna ymarfer corff pathetig i fawd fy llaw dde ar y pellreolwr hyd nes ei bod hi'n amser mynd i'r ciando. Mae bywyd yn rhy fyr. Can mil gwell gen i wario llai o amser o flaen y set deledu, bod yn fwy gofalus fy newis - a dewis gwylio pan yn gyfleus i mi.

Pleser mawr yw cael ymweld 芒'r ddwy wefan ganlynol o bryd i'w gilydd: www.s4c.co.uk a www.zdf.de. Safwe zweite deutsche Fernsehen er mwyn gloywi fy Almaeneg, dysgu mwy am yr Almaen ac, wrth gwrs, gwefan es-ffor-si, gan fy mod yn waschechter Waliser. Nid oes gan ein hoff sianel ddigon o bres(?) a staff(?) i allu datblygu arlwy Band Llydan sy'n cynnig yr un lefel o amrywiaeth a dewis a'r hyn a geir ar wefan zdf. Ond clod dyledus i benaethiaid Parc T欧 Glas - cewch hyd i ambell i berl os ewch chi i www.s4c.co.uk/bandllydan/c_index.shtml.

Treflan - os na fydd y rhaglenni yma yn ysbrydoli rhywun i ddarllen un o nofelau Daniel Owen yna ni all unrhyw beth. Un o gyfresi mwya uchelgeisiol S4C yn hanes y sianel? Daniel Owen (Portreadau) - Shakespeare a DO - rhaid cymryd sylwadau Derec Llwyd Morgan o ddifrif.

Rhaglen 'rhywbeth at ddant pawb' yw Wedi 7. Hoffaf y ffaith y gellir darllen crynodeb o gynnwys y rhaglenni ac yna dewis a dethol pa eitemau/straeon i'w gwylio. (Ond pam cynnig cyfieithiad 100% yn yr iaith fain? Nid yw zdf yn cynnig cyfieithiadau slafaidd ar gyfer rhywun na all siarad, deall neu ddarllen Almaeneg yn hollol rhugl. Mae mymryn o Saesneg ar www.s4c.co.uk yn iawn - ond dim gormod chwaith! Ni ddylid trin dysgwyr mewn ffordd nawddoglyd a thanbrisio eu gallu a'u brwdfrydedd wrth ddysgu iaith y nefoedd!) Siart C2 ac unrhyw stori leol i'r fro yma sydd yn cael y flaenoriaeth gen i pan y byddaf yn dewis mynychu caffi rhyngrwyd. Ceir dewis o'r bedair rhaglen mwya diweddar - ond byddai'n well gen i weld pob un rhaglen yn cael ei storio mewn archif ar lein i'r gwylwyr.

Ni fyddwn yn dewis gwylio'r rhaglen Waw Ffactor yn ei chyfanrwydd, ond 'roedd arnaf awydd gwybod pwy enillodd eleni. Pam na chafodd y gwyliwr wybod faint yn union o bobl gartref oedd wedi pleidleisio? Oni fyddai newid bach fel yma yn ychwanegu at y tensiwn a'r ddrama cyn clywed enw'r enillydd (cyn belled bod nifer go dda wedi trafferthu pleidleisio)? "Miloedd wedi pleidleisio", meddai Eleri Si么n. Ond faint yn union, os gwelwch yn dda?

C芒n i Gymru - cynhyrchiad uchelgeisiol iawn - braf gweld S4C yn ddigon dewr i ffilmio'r gystadleuaeth mewn ardal tipyn llai Cymreigaidd na bro'r Eco - sef yr Afan Lido ym Mhort Talbot. Ond mae'r pwynt yngl欧n 芒 bod yn hollol agored a gonest gyda'r gwylwyr adref yn un dilys ar gyfer y sioe yma hefyd. "Dod i mewn yn eu miloedd ... Nathoch chi bleidleisio yn eich miloedd," meddai Sara Elgan. Miloedd ar filoedd? Sawl mil?

Braf gweld S4C yn rhoi blaenoriaeth a sylw haeddiannol i ragoriaeth cerddorol drwy gynnwys WNO - Der Fliegende Hollander a Soprano BACH: Elin Manahan Thomas. Ond os na fydd rhain yn eich gwefreiddio yna ewch am dro i www.bandit247.com er mwyn mwynhau math gwahanol o ardderchowgrwydd. Mae llawer o bethau Cymraeg wedi tr茂o bod yn c诺l ond wedi methu mewn ffyrdd chwerthinllyd - ond mae'r sioe yma'n c诺l go iawn! Da gweld hogia lleol talentog Brigyn (www.brigyn.com) a Ryan Kift yn serennu'n genedlaethol a rhyngwladol. Meddyliwch am y peth - mymryn o ddiddordeb o bedwar ban byd. Ond nid da lle gellir gwell yw hi i'r SRG - Steddfod Lerpwl 07 - collwyd cyfle euraidd! Cofiwch gofrestru er mwyn derbyn cylchlythyr difyr tu hwnt gan griw Bandit.

Efallai na chawsoch gyfle i fynychu Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych eleni. Efallai y buoch yn rhy brysur i wylio S4C diwedd Mai/dechrau Mehefin. Na phoener! Piciwch draw i adran Band Llydan S4C - digon o dalent lleol wedi rhagori. Hoffi'r clip "Shwd mae, Bonjour, Guten Tag" yn fawr iawn. Diddorol nodi y gellir dewis opsiwn Cymraeg neu English ar safwe S4C ond bod www.urdd.org yn rhoi pwyslais ar unai Cymraeg neu Bilingual Version - a yw pwysigion yr Urdd yn gwbl hapus gyda'r modd mae'r arlwy wedi ei gyflwyno ar www.s4c.co.uk? Ni ddylai'r arlwy presennol yma gael ei ddisodli gan Steddfod yr Urdd 2007 y flwyddyn nesaf. Archif uchelgeisiol sydd ei angen - a digon o gyfle ac amser i lawer o Eisteddfodwyr bro'r Eco allu ail-fyw y profiad unwaith eto. Gresyn fod cymaint o stwff cynnar radio Cymraeg wedi ei golli am byth. Gobeithio bod y we yn ei gwneud hi'n llawer anos colli talpiau gwerthfawr o'r diwylliant Cymraeg hyglyw a gweladwy.

Dwi ddim yn hoffi coginio (Dudley). Nid josgin (Ffermio) mohonaf, a dwi'n rhy hen i wylio Uned 5, felly wna i ddim s么n gormod am y rhain - wel, un pwynt yngl欧n 芒 'Going Live Cymru' (dangos fy oed?): chwarae teg i'r bobl sy'n gyfrifol am wefan Uned 5 - wedi gwneud joban dda iawn o greu rhywbeth Cymraeg sy'n c诺l a ffasiynol. Mewn gair, mae'n NORMAL.

Pe bawn i yn cael dewis un math o raglen ar gyfer ei hychwanegu at arlwy Band Llydan presennol S4C, yna byddai'r dewis yn un hawdd: rhaglen awran wythnosol yn rhoi sylw i'r wasg Gymraeg. Panel yn trafod Y Cymro, Golwg, Barn, Yr Enfys ... heb anghofio pob un wan jac o'r papurau bro ar rota deg yn nhrefn y wyddor. Siawns da felly y byddai'r hen Eco a'r Dinesydd yn cael eu trafod yn ystod yr un rhaglen? Gall swyddogion a gohebwyr Eco'r Wyddfa ymfalch茂o'n y ffaith fod y papur bro yma'n un o'r goreuon - yn wahanol i un papur prifddinas. Rhaglen sych? Na - dim o gwbl. Gwesteion gonest, di-flewyn ar dafod, sylw haeddiannol i erthyglau, portreadau ac adroddiadau difyr. Oni fyddai rhaglen fel yma yn hwb arall pwysig i werthiant (yng Nghymru a thu hwnt) a safon y cyhoeddiadau? Roedd gan ganran iach iawn o Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sgiliau llythrennedd uchel o'i gymharu a gwledydd eraill. Traddodiad i'w thrysori.

Gawn ni weld Sioe Gelf: Siarad mewn Cyfrolau ar Fand Llydan, os gwelwch yn dda? T H Parry-Williams - un o wir gewri Eryri. Das Volk der Dichter und Denker - darllenais unwaith ar zdf. A ydym fel cenedl yn llwyddo i ddathlu athrylithoedd ein ll锚n? Rhaglenni yn rhoi sylw i Daniel Owen yn wych - mwy o hyn os gwelwch yn dda.

O'r clasurol i'r poblogaidd, o'r lleol i'r cenedlaethol a rhyngwladol (rhaglen China - agoriad llygad). O'r dramatig (Caerdydd) i'r tangnefeddus ag addysgiadol (Portreadau: Daniel Owen). Yn y myfyrgell, caffi rhyngrwyd, ysgol neu lyfrgell. O Ddeiniolen i Ddenmarc, o Lanrug i Lerpwl, o Waunfawr i Washington D.C., o Benisarwaen i Batagonia ac o Nant Peris i Niedersachsen. Bydd y dewis yn ehangu, yr ymwelwyr yn cynyddu a'r gwasanaeth yma o Lanisien yn mynd o nerth i nerth. Mwynhewch yr arlwy - unrhyw le, unrhyw bryd (wel, bron iawn)."

Martin Ll Williams, Manceinion.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy