"Gan fy mod i yn ffan mawr o Mim Twm Llai, ro'n i'n edrych ym mlaen yn arw i gael blas ar ei albwm diweddara'.
"Wedi clywed a mwynhau ei albwm cyntaf, O'r Sbensh, ro'n i'n awyddus tu hwnt i weld beth oedd gan Straeon y Cymdogion i'w gynnig.
"Er bod y CD wedi ei rhyddhau ers Sesiwn Fawr, dim ond r诺an dwi 'di gallu gwerthfawrogi y CD yn iawn.
"Wrth edrych ar y clawr cawn ddarlun hamddenol a hwyliog o fyd hynod ddiddorol Gai Toms, ac fel mae enwau rhai o'i ganeuon yn awgrymu mae ganddo ddychymyg hollol liwgar!
"Agorir Straeon y Cymdogion gan g芒n o'r un enw, c芒n llawn hwyl sydd yn sionc a'r alaw yn un hawdd iawn i'w dilyn. C芒n agoriadol ardderchog sydd yn gosod naws hamddenol i'r CD.
"Gyda chaneuon cofiadwy fel Rhosyn Rhwng Fy Nannadd ac O Le Ga'i Eda', mae'r teimlad gwerinol a thraddodiadol yn apelgar tu hwnt. Dangosa'r caneuon hyder ac unigrwydd Mim Twm llai a'r gallu arbennig sydd ganddo i arbrofi gyda gwahanol ffurfiau o gerddoriaeth o rap i 'western' ac yna i gerdd dant (wel ryw fath beth bynnag!).
"Er bod Y Penblwydd wedi achosi ymateb cymysg gan fy ffrindiau, yn fy marn i dwi'n credu mai'r g芒n yma yw un o lwyddiannau'r CD... ynghyd 芒 Da Da Sur, Sunshine Dan a Gwe Pry Cop Tom. Os nad ydio'n amlwg erbyn hyn, mae pob c芒n hefo rhywbeth gwahanol a diddorol i'w gynnig.
"Mae Da Da Sur yn g芒n hwyliog a byrlymus sydd yn gwneud i chi eisiau symud eich traed i'r rythm, c芒n llawn egni a hwyl, sydd hefyd yn rhinwedd bwysig yn Sunshine Dan sef, yn fy marn i, c芒n fwya' cofiadwy y CD, mae hi'n g芒n berffaith er mwyn cael pawb ar eu traed i ddawnsio (wel dyna sy'n digwydd i mi bob tro!!) Mae'n codi ysbryd unrhyw un sy'n teimlo'n isel - yn syml c芒n hapus ydi Sunshine Dan.
"Daw Si Hei Lwli fel dipyn o sioc yn dilyn bwrlwm ac egni'r caneuon blaenorol, dwi wedi clywed rhai yn dweud ei bod hi'n 'soothing' iawn ac yn dyner. Dwi'n credu bod hi'n ddoeth iawn cael c芒n mor gyferbyniol er mwyn cael 'chydig o wahaniaeth mewn CD.
"Daw'r g芒n olaf 芒 rhywbeth hollol wreiddiol, a gwirion, i gynnwys y CD, c芒n mewn iaith 'backslang' o'r chwareli ac ychydig o dafodiaith ac arferiad pobl leol Ll欧n. C芒n sydd yn cyfleu natur gartrefol Gai Toms sydd yn dangos bod dylanwadau lleol yn bwysig iddo, sydd yna yn cael ei ddatblygu yn ei waith.
"Felly, dwi'n credu bod Straeon y Cymdogion yn llwyddiant o'r nodyn cyntaf hyd at yr un olaf, gyda digon o amrywiaeth yn y caneuon. Os nad ydych wedi prynu y CD campus yma eto, dwi yn eich annog chi i wneud hynny ar unwaith ... Tan yr albwm nesaf gan Mim Twm Llai bydd Straeon y Cymdogion yn aros yn agos iawn i'r chwaraewr CD adre."
Steffan Roberts
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.