Ein Nadolig ni Beth mae'r Nadolig yn ei olygu i chi? Eistedd o flaen y teledu gyda llond bol o dwrci? Mae sawl un yn yr ardal sy'n cael profiad tra gwahanol i'r rhelyw dros yr 诺yl.
Gwrandewch arnyn nhw'n siarad am eu dathliadau nhw:
Twrci a tipl
Fel gweinyddes yng ngwesty'r Ambassador ger y m么r yn Llandudno, mae Nadolig yn cychwyn yn yr Hydref i Eleri Lewis. Sut mae hi'n ymdopi 芒 dathlu'r 诺yl un-ar-bymtheg o weithiau cyn Rhagfyr 25?
Dathlu fel derwydd
Mae Kris Hughes o Ynys M么n yn mynd yn 么l i'r dyddiau cyn Crist i gael ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddathliadau dros yr 诺yl. Er bod ganddo'r goeden, y celyn a'r uchelwydd, geni'r haul newydd yw canolbwynt ei wledda.
999 dros y Nadolig
Er mai adref fydd ei deulu, mi fydd y paramedig Irfon Davies o Gaernarfon yn treulio'r Nadolig a Nos Galan yn helpu cleifion yr ardal. Yn yr ambiwlans ar y l么n neu'r hofrennydd uwch ein pennau, a'i Irfon yw'r unig un i obeithio am ychydig o law dros yr 诺yl?
Cynnig cymorth
Mae'r Nadolig yn gallu bod yn amser anodd i rai, felly mae staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ferched De Gwynedd yn parhau i gynnig cyngor a diogelwch dros yr 诺yl.
Adfywio'r Plygain
Mae hen draddodiad y Plygain yn cael ei adfywio yn y gogledd orllewin - dyma Arfon Gwilym, golygydd Hen Garolau Cymru, i'n hatgoffa o hanes y gwasanaeth a'r carolau.