Y tu allan, roedd y ciw mwya dwi erioed wedi ei weld mewn gig Gymraeg wedi ffurfio. Taenodd gw锚n ar fy wyneb. Roedd yr awyrgylch yn drydanol, roedd hon yn amlwg am fod yn noson i'w chofio.
Camais i fewn i'r adeilad a chael fy nghyfarch gan rythmau ffynci DJ Dyl Bili, sy'n chwarae lot o stwff dawnsiadwy soul/ffync/latin gwych. Roeddwn i'n hoff iawn o Siop Siafins sef tiwn brakebeat hip hop gan Dyl Bili ei hun, sydd 芒 sampl o'r hen raglen deledu wedi'i blethu mewn yn effeithiol iawn. Ffwnc.
Gyntaf ar y llwyfan oedd Mr Huw, sef prosiect solo Huw o Kentucky AFC. Hon oedd gig gyntaf Mr Huw, ond roedd y perfformiad yn broffesiynol ac yn hyderus iawn. Rhyw gymysgedd reit c诺l o bync ac indie oedd gan Mr Huw i'w gynnig, wedi'i gyfuno 芒 geiriau doniol, diddorol, a phrofodd y caneuon i gyd yn gofiadwy iawn. Uchafbwynt y set i mi oedd y gan olaf, Tanllwyth o D芒n, ble symudodd Huw at symbal, a dechrau waldio'r peth yn racs efo drumstick, tra'n dal i ganu a chwarae keyboard ar yr un pryd! Mae dyfodol disglair i'r artist hwn 'swn i'n ddeud.
Wedi set fyr gan Dyl Bili, camodd diva y s卯n roc Gymraeg i'r llwyfan, Swci Boscawen. Roedd ei sgert yn fach, a'i hamrannau ffug yn fawr, a pherfformiodd set wych, llawn carisma. Cawsom set reit bynci, a ffynci ar brydiau, oedd yn swnio bron fel sdwff MC Mabon neu fel sdwff y Fflaps.
Roedd presenoldeb llwyfan Mared Lenny yn anhygoel, ac roedd y caneuon yn gofiadwy iawn, "dwi di dawnsio rownd y polyn, dwi di siglo fy nhin", gwych! Neis gweld dipyn bach o 'glam' yn yr srg o'r diwedd!
Ar 么l cael fy mwydro gan ryw foi meddw oedd yn ceisio fy mherswadio i ddechrau chwyldro comiwnyddol efo fo, prysurais at flaen y llwyfan ble roedd y band nesaf a phrif act y noson yn paratoi i chwarae. Roeddwn i wedi edrych mlaen i weld y Poppies yn fyw ers Sesiwn Fawr flwyddyn dwytha, a rargol annwyl, ches i'm o'n siomi!
Rhain yn bendant oedd uchafbwynt y noson. Roedd y set yn egn茂ol, ac roedd y s诺n yn aeddfed ac yn broffesiynol iawn, ac roedd ymateb y dorf yn wefreiddiol, gyda phawb yn y t欧 bron, ar y dans ffl么r yn symud i Sex Sells. Diweddglo arbennig i noson lwyddiannus arall gan Maes B yn Nghlwb y Rheilffordd. Cadwch i fyny 芒'r gwaith da!
Cai Dyfan
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.