Gig Jen Jeniro ac Alun Tan Lan yn Nhafarn y Bont, Llangernyw, ar gyfer y Cylch Meithrin ar 11 Tachwedd 2005
Awyrgylch:
Braf a chartrefol. Gan fod y bandiau yn lleol (Alun Tan Lan o Bandy Tudur a Jen Jeniro o Lanrwst yn bennaf) roedd pawb yn eu hadnabod ac roedd teimlad hamddenol i'r holl noson. Roedd y dafarn yn llawn, gyda chynulleidfa o bob oedran, a phawb yn mwynhau'r gerddoriaeth. Roedd y gig yn hwyr yn cychwyn gan fod rhaid aros i'r g锚m (Cymru v Fiji) orffen yn gyntaf!
Trac y noson:
'Canol y Ffordd' gan Jen Jeniro - c芒n serch i Bryn F么n (tafod yn y foch wrth gwrs!)
Perfformiadau:
Pump aelod sydd i'r band Jen Jeniro, a chwaraeodd gyntaf. Maent wedi bod yn chwarae ers cyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni (mi gawsant ail yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2, eu hail gig erioed!). Mae ganddynt nifer fawr o ganeuon gwreiddiol sydd i gyd mewn arddull wahanol ond sydd eto'n swnio'n hollol nodweddiadol ohonynt. Rhyw fath o "indie hiphop gwerin" yw disgrifiad Eryl Jones, y canwr, o'u harddull, ac mae hynny'n reit agos i'r gwir ddeudwn i!
Mae'r g芒n 'Ddim yn Saff' yn g芒n am "ddim lot o ddim byd", ond mae'n dynn a thrwm gyda churiad cryf, a git芒r a drymiau ffrwydrol. Mae na 'wuhooos' tebyg iawn i g芒n Blur, 'Song Two', sy'n gr锚t pan rydych chi eisiau ymuno yn y canu ond ddim yn gwybod y geiriau!
Eu c芒n orau yw 'Canol y Ffordd' sy'n tanseilio'r dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru ac yn 'canu clodydd' Bryn F么n. Mae hon yn g芒n llawn hwyl a bywiogrwydd, mae'r lyrics mewnweledol yn cael bloedd o chwerthin bob tro, ac mae'r gerddoriaeth yn gr锚t, yn dilyn eu harddull nodweddiadol o benillion hamddenol, rapio ysgafn, a chytgan cyhyrog, pendant. Band sydd yn sicr yn mynd i fynd yn bell!
Alun Tan Lan wedyn, sy'n berfformiwr byw gwych ac yn adnabyddus led led Cymru. Mae o'n rhoi perfformiad 'agos atoch' a phwerus, ac mae'n ysgrifennu am bethau y mae o'n eu hadnabod ac sy'n cael effaith arno, felly mae'r caneuon yn swnio'n wirioneddol 'o'r galon'. Mae'n anodd disgrifio arddull ei gerddoriaeth, mae mor unigryw, ond git芒r acwstig a chwarae teimladwy fasai'r disgrifiad cyffredinol ma'n si诺r. Mi blesiodd o'n fawr drwy chwarae 'Banjo', un o fy hoff ganeuon ac un sydd wedi dod yn glasur erbyn hyn! Roedd y dewis o ganeuon yn wych ac roedd Alun yn amlwg yn mwynhau, yn rhoi perfformiad egn茂ol a chofiadwy.
Uchafbwynt y noson:
Rhaid i fi ddweud Alun Tan Lan a'r g芒n 'Banjo' - ffantastig!
Y peth gwaethaf:
Doedd na ddim un!
Achlysur roc a r么l:
Doedd o ddim y math yna o gig r卯li - dwi'n meddwl mai'r peth mwyaf roc a r么l oedd Alun yn stopio yng nghanol c芒n am fod y b芒s allan o diwn (odd o'n ddoniol iawn, rhaid oedd bod yno i allu gwerthfawrogi'n iawn!)
Beth sy'n aros yn y cof:
Jen Jeniro yn chwarae 'Iechyd Da' gan y Gorky's- crynhoi teimlad y noson i'r dim.
Talent gorau:
Alun Tan Lan yn chwarae git芒r ac organ geg ar yr un pryd - ac yn ei wneud yn dda!
Marciau allan o 10:
10!
Un gair am y noson:
Poeth!
Branwen Chilton
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.