Lluniau'r 诺yl"Mi ddaru ni ddewis ei chynnal ym mis Hydref gan mai dyma gychwyn tymor y cregyn gleision ac felly penderfynwyd cyd-dynnu efo'r diwydiant yma am fod Conwy yn enwog amdanyn nhw.
"'Da ni'n s么n am gynnal g诺yl ym mis Mehefin hefyd.
"Mae pobl yn dod o bob cwr o Brydain yma. 'Da ni'n rhyfeddu at y gefnogaeth rydan ni'n ei gael ac hefyd pa mor bell mae rhai yn dod - roedd rhai wedi trafaelio am oriau i ddod yma y llynedd.
"Mae 'na wahanol fathau o gynhyrchwyr efo stondinau yn arddangos yn ystod yr 诺yl. Rhai lleol iawn a rhai o bellach i ffwrdd sy'n arbenigo mewn meysydd arbennig. Rydym hefyd yn cefnogi'r ymgyrch Masnach Teg i roi cyfle i rai o'r gwledydd tramor sy'n llai abl i farchnata a gwerthu cynnyrch eu hunain.
"Bydd cogyddion gwahanol yma dros y penwythnos. Mae cyd-dynnu efo ieuenctid o Goleg Llandrillo hefyd yn bwysig ac maen nhw'n un o bartneriaid llawn yr 诺yl.
"Fel cigydd lleol, mi ddois yn rhan o'r 诺yl gan fy mod yn ei gweld hi'n bwysig i hybu cynnyrch lleol a 'da ni'n ffodus ein bod yn cael cefnogaeth wych gan siopau Conwy. Mi fydda i'n estyn yr hen badell ffr茂o enfawr i goginio selsig yn ystod y dydd hefyd!
"Fedrwch chi ddod i'r 诺yl trwy gerdded dros y cob yng Nghonwy, defnyddio'r parc and ride neu ddod ar gwch - mae yna fferi bach yn mynd 芒 phobl o'r maes parcio ar y cyrion ac yn glanio ar y cei."
Bydd blas ar y celfyddydau a byd y ddrama yng ng诺yl 2006 a'r eisin ar y gacen fydd dangosiad gan y cogydd talentog o Ddinbych, Bryn Williams, a enillodd gyfle i giginio gweldd penblwydd y Frenhines yn 80 oed yn ddiweddar a bydd gig gydag Euros Childs. Yn ogystal bydd dathliad o fwyd o Faleisia a fydd yn cynnwys dawnsio lliwgar gan y Lion Dancers a'r Bollywood Bangra Dancers.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒'r trefnydd Jane Hughes ar 01492 593874/07718 887478.