成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C么r Merched Bethesda a deithodd drwy Brydain yn cynnal cyngherddau yn 1901 C么r ar seiliau cadarn
Am y tro cyntaf ers dros ganrif, mae gan Fethesda g么r merched unwaith eto - c么r ac iddo seiliau cryf yn nhraddodiad cerddorol y dref a hanes y Streic Fawr.
Cynhaliodd Cororion eu cyngerdd cyntaf ym mis Mai 2005 dan arweiniad Beti Rhys, athrawes gerdd yn Ysgol Syr Hugh Owen ond mae gan lywydd anrhydeddus y c么r, Brenda Wyn Jones, gysylltiad uniongyrchol 芒 ch么r merched cyntaf Bethesda a sefydlwyd adeg Streic Fawr y Penrhyn.

Nain Brenda, Mary Ellen Parry, oedd arweinydd y c么r cyntaf hwnnw a sefydlwyd ddechrau Mai 1901. Ugain o ferched ifanc lleol di-briod oedd yr aelodau bryd hynny ac fe fydden nhw'n gadael Bethesda am hyd at dri mis ar y tro i gynnal cyngherddau ar hyd a lled Prydain i godi arian at ap锚l y streic.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, mi godon nhw 拢8,000 tuag at y Penrhyn Relief Fund a chael croeso mawr gan bobl mewn llefydd fel Sheffield, Bryste, Llundain a Chaeredin.

Yn ogystal 芒 chodi arian, fe helpon nhw hefyd i ledaenu gwybodaeth am y streic drwy'r wlad.

Pan ddaeth y streic i ben, fe roddodd y c么r y gorau iddi gan ganu am y tro olaf ym mis Gorffennaf 1903. Ond bellach, mae merched yr ardal yn ailafael yn y traddodiad, fel yr esbonia yr arweinydd Beti Rhys:

"Dim ond ers ychydig fisoedd rydyn ni wedi dechrau ac mi gychwynnodd y cyfan mewn parti Nos Galan y llynedd pan ddaru rhai o genod yr ardal ofyn a fyddai gen i ddiddordeb mewn arwain c么r. Dwi'n bennaeth yn adran gerdd Ysgol Syr Huw Owen ac wedi arwain sawl c么r o blant ac roeddwn yn awyddus i helpu efo'r c么r newydd yma.

"Mi ddaeth tua 25 i'r cyfarfod cyntaf ac erbyn hyn mae bron i 50 yn dod bob nos Iau am saith o'r gloch i Ysgol Gynradd Tregarth lle rydyn ni'n ymarfer.

"'Da ni'n canu bob math o gerddoriaeth - caneuon arferol ar gyfer c么r meched a rhai gospel hefyd. Da ni'n gobeithio canu darnau cyfoes cyn bo hir, rhai newydd sbon.

"Yn ein cyngerdd cyntaf ym mis Mai roedd Neuadd Ogwen ym Methesda yn orlawn. Roedden wedi llwyddo i ddysgu pum c芒n ar ei chyfer ac roedd yn llwyddiant mawr.

"Rydym yn gobeithio cystadlu mewn eisteddfodau a pherfformio mewn mwy o gyngherddau yn y dyfodol."

Yn Nhregarth hefyd, lle mae'r c么r yn ymarfer, mae'r llyn sydd wedi rhoi ei enw i'r c么r, sef Llyn Cororion, lle mae olion Cytiau Gwyddelod o'r Oes Efydd i'w gweld o hyd.


Cyfrannwch

John Hughes o Poulton le fylde
Roedd fy nhaid John Rowlands yn y streic fawr; pob lwc i'r cor. Roedd fy nhad yn "dispenser" yn ysbyty y chwarel o 1912 i 1915. Yr hen dy y teulu oedd Freithwen yn Gerlan.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy