Keith Williams a chig Glasfryn
![Keith Williams a chynnyrch st芒d Glasfryn.](/staticarchive/2d75276b20cdc472671ace57afee25e9ad90a6d7.jpg)
Mae Keith Williams yn gweithio i st芒d Glasfryn, Pen LL欧n, sy'n cadw Gwartheg Duon Cymreig. Mae'r brid yma yn cael ei gydnabod am safon uchel y cig. 'Da ni'n neud o yn y ffor hen ffasiwn,' meddai Keith, 'da ni'n i hongian nhw am dair wythnos cyn bo ni'n hyd yn oed yn sbio arno fo..mae hyn yn gwneud y cig yn fwy tyner..'
Olew Calon Lan
![Rhydian Owen yn s么n am olew Calon Lan.](/staticarchive/31bd08e8c3525559a635c0922a23df51044d7688.jpg)
Mae cwmni ifanc Calon Lan yn cynhyrchu olew allan o Afocado, Cywarch (hemp) a Camelina. Mae'r rhain yn dda iawn i'r corff. Medd Rhydian Owen ar ran y cwmni, 'mae'r tri olew yn unigryw iawn, ma' nhw'n iachus, yn llawn omega-3..'
Melfyn Thomas yn coginio cig moch 芒 garlleg a madarch
![Melfyn Thomas yn coginio.](/staticarchive/ab6dc8e52315e3fee2c4d6b18a06822ca1c11088.jpg)
Bu'r cogydd Melfyn Thomas yn coginio ychydig o'r cynnyrch a oedd ar werth yn yr 诺yl. Gwrandewch arno'n ffreio cig moch gyda garlleg, madarch a chennin mewn hufen a menyn. Meddai, 'Ma'r reseit ma'n reit boblogaidd..dio'm ryw gant y cant yn iach i ni efo'r holl fenyn a'r hufen ond mae'n reit braf cael rywbeth bach yn wahanol weithiau.'
Porc cwmni Traedmoch
![Huw o gwmni Traedmoch.](/staticarchive/20a913fd9cc38192c938c9c24927431871c963b5.jpg)
Dyw hi ddim yn syndod mai porc yw cynnyrch cwmni Traedmoch, o Benrhynydyn, Rhydyclafdy, Pwllheli. Dim ond moch eu hunain mae'r cwmni'n eu defnyddio ac mae'r moch yn cael y gofal a'r bwyd gorau. Meddai Huw Gruffudd, o'r cwmni, '..da ni'n tyfu 'u bwyd nhw i gyd, da ni'm yn cael pryd wedi prynu allan o fagiau, felly..'
Cwrw M诺s Piws
![Ydych chi wedi yfed cwrw M诺s Piws?](/staticarchive/26134489c6cae6fc67cd1ad24abeeab454d73ee9.jpg)
Sefydlwyd bragdy M诺s Piws ym Mhorthmadog yn 2005 ac ers hynny mae'r cwrw wedi ennill nifer o wobrau. 'Mae gynnon ni bedwar math o gwrw gwahanol a mae gynnon ni gwrw arbennig dros y flwyddyn igyd.. mae gynnon ni gwrw Nadolig ar hyn o bryd..'
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |