"Brodor o Fangor oedd Ifor Wyn, dyn ei filltir sgwar, a Chymro i'r carn. Cafoedd ei addysg yn ysgolion Hirael a Friars a'r Coleg Normal. Bu yn brifathro yn Rhosgadfan, Conwy a Llanfairpwll. Yn ystod ei gyfnod yn brifathro yng Nghonwy fe wnaeth safiad dros yr iaith.
Enillodd Ifor y Fedal Ryddiaith, 1971, am ei nofel hanesyddol am Gruffudd ap Cynan sef Gwres o'r Gorllewin. Enillodd hefyd wobr Nofel Antur yr Eisteddfod yn 1966. Ysgrifennodd ddram芒u, pantomeim a chyfresi ar gyfer radio a theledu, Lleifior i enw ond un, a 14 o nofelau. Yn ystod ei waeledd olaf, yn dioddef o ganser, yr oedd yn gweithio ar nofel a oedd yn rhannol hunangofiant o'i blentyndod. Gorffennodd y nofel, yn ei lawysgrifen ei hun efo minnau, ei gymar, yn gwneud y gwaith teipio. Fe aeth y nofel i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod M么n 1999. Ni enillodd y tro yma - roedd yn y dosbarth cyntaf 芒 chanmoliaeth mawr iddi. Ni welodd yr awdur yr eisteddfod na'i lyfr olaf mewn print. Fe addewais iddo y buasai'r stori yn cael ei chyhoeddi, ac mi fu, ond heb yr awdur a hynny dair blynedd ar 么l ei farwolaeth. Trueni na welodd y llyfr mewn print." Ceir adolygiad o L么n Gweunydd, nofel hunangofiannol olaf Ifor Wyn Williams yma
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |