成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caer Llanfor o'r awyr O dan y maes
Beth bynnag wisgwch chi, wellies neu sandalau, mi fydd yna hanes o dan eich traed wrth i chi grwydro maes yr eisteddfod y Bala yn 2009. Dave Hopewell o ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd sy'n egluro mwy.
Eisteddfod 2009 ar y 成人快手.

Roedd yna gaer Rufeinig enfawr yn Llanfor, o dan safle'r eisteddfod yn 1997 a 2009.

Rydym yn credu ei bod yn gaer o gyfnod cynnar y Rhufeiniaid yng ngogledd Cymru. Adeiladau pren oedd yna rhan fwyaf; efallai ei fod yn wersyll dros dro i filwyr wrth iddynt symud drwy'r ardal.

Mae o 'mond yn weladwy o luniau o'r awyr neu brofion geoffisegol. Ond roedd y canlyniadau o archwiliadau o'r fath yn un o'r rhai gorau dwi erioed wedi gweld.

Y mae profion geoffisegol yn nodi newidiadau yng nghyflwr magnetig y pridd. Er enghraifft, os gymerwch gae nad yw neb wedi ymyrryd a fo ers cyfnod y rhewlifol, neu lifiadau'r afonydd yn yr ardal yma, mi fydd y pridd yr un fath reit ar draws y cae.

Ond os yw rhywun wedi cloddio yn y cae, ac felly wedi ymyrryd 芒'r uwchbridd, neu os yw rhywbeth wedi cael ei losgi ar y tir, mae'n bosib pigo fyny'r newidiadau yn yr ocsidiau magnetig.

Rydym yn cymryd darlleniad bob rhyw 50 cm ar draws y cae, ac felly yn gallu creu darlun o'r hyn sydd wedi newid yn y tir dros y canrifoedd. Oherwydd y math o bridd sydd yn Llanfor, mae'n bosib gweld amlinelliad pob adeilad o fewn y gaer, ac ystafelloedd o fewn yr adeiladau yna.

Mae o jest yn bosib gweld amlinelliad y gaer gyda'ch llygad, os ydych yn gwybod yn union ym mhle i edrych.

Caer Gai yn Llanuwchllyn.  Hawlfraint Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Cafodd y gaer yma ei phigo fyny ar ddamwain! Roedd archeolegwr ar ei ffordd n么l yn ei awyren, ar 么l iddo archwilio Caer Gai, caer Rufeinig arall ar ochr arall Llyn Tegid, pan sylweddolodd ar Lanfor. Roedd yn ystod y sychder mawr yn 1976 pan gafodd sawl lle fel hyn ei ddarganfod.

Aethom yn 么l i Lanfor cyn Eisteddfod Genedlaethol 1997 i sicrhau na fyddai dim yn cael ei ddifrodi wrth gynnal yr 诺yl. Mae'n rhaid gyrru angorau enfawr i mewn i'r pridd wrth godi'r pafiliwn, felly ddaru'r eisteddfod ei gosod ar dir lle nad oes gweddillion Rhufeinig. Mi fydd rhan fwyaf o'r hen gaer o dan y maes parcio.

Mae yna hefyd safleoedd claddu o'r Oes Efydd ger maes yr eisteddfod, yn ogystal 芒 rhywbeth gall fod yn gaer Canol Oesol. Mae'n bosib y bydd yna archeolegwr yn cloddio'r man yma yn ystod yr eisteddfod yn 2009.

Mae gan safle'r eisteddfod yn y Bala sicr hanes unigryw iddo. Dave Hopewell

Cofio Eisteddfod y Bala '97.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy