成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwladys Hughes Effaith y rhyfel
Collodd Gwladys Hughes o Amlwch ddau frawd yn yr ail ryfel byd. Ond fel nyrs yn y cyfnod, bu hefyd yn helpu i drin rhai o filwyr y 'gelyn' oedd yn garcharorion ym Mangor.
"Mi roedd gen i dri brawd ac mi aeth dau ohonyn nhw i'r navy - ac mi gollwyd y ddau o fewn wythnos i'w gilydd. Yn Burma roedd Hywel, fo oedd y f'enga yn 21 oed, ac mi gawson ni neges i ddweud ei fod yn 'missing in action' a chafwyd byth hyd i'w gorff. O fewn wythnos, mi gawson ni neges i ddweud bod Huw, oedd yn 22, wedi ei golli ar 么l i torpedo daro ei long.

"Ro'n i'n nyrs yn Ysbyty Gwynedd ar y pryd ac yn yr ysbyty oeddwn i pan glywais i'r newyddion. Mi ddoth y matron ata i a gofyn fasa hi'n cael 'y ngweld i. Dyma fi'n meddwl, 'Be dwi wedi ei wneud r诺an?'

"'I'm sorry to have to tell you this ....' medda hi ... 'toes gan bobl ddim syniad sut oedd hi.

"Roeddan ni'n cael llawer o prisoners of war yn yr ysbyty. Roedd na gamp i Eidalwyr yn y Faenol ac un ar gyfer Almaenwyr ym Mangor - i lawr lle mae Dicky's Boatyard r诺an. Dwi'n cofio'r Eidalwr cynta yn dod i gael ei drin - roedd ganddo fo apendiseitis drwg. Roedd o'n gweiddi ac yn pledio yn meddwl ein bod ni'n mynd i'w ladd o oherwydd yr holl bropaganda roeddan nhw wedi ei gael. Wrth fynd i mewn i gael llawdriniaeth, a finna'n mynd i mewn efo fo, roedd o'n gweiddi 'No knife, no knife!' yn si诺r y basa fo'n cael ei ladd. Doedd ganddo fo ddim Saesneg a finna ddim Eidaleg i ddeud wrtho fo bod popeth yn iawn.

"Ar 么l hynny, mi roedd lot o'r Eidalwyr a'r Almaenwyr yn dod i'r ysbyty - toedd ganddon ni ddim drwgdeimlad yn eu herbyn - wedi cael eu gorfodi i ymuno oeddan nhw, wedi cael eu conscriptio. Fel Hywel a Huw, doeddan nhw ddim isho joino chwaith. Gweithio yn y siop bwtsiar yn Amlwch oedd Huw yn mynd i'w wneud.

"Peth arall rydw i'n ei gofio am y rhyfel ydy'r blacowts a'r rations. Doedd na ddim byd yn y siopa ond mi roedd na black market o gwmpas. Doedd na ddim siwgr ac mi stopiais gymryd siwgr yn fy nhe yr adeg honno - a dydw i ddim wedi cymryd wedyn!

"Dwi'n cofio cerdded ar hyd stryd Bangor mewn tywyllwch dudew a phawb yn bympio i mewn i'w gilydd ac yn deud 'Esgusodwch fi'. Doedd gan neb ofn o gwbl yn cerdded yn y tywyllwch yn y nos - doedd na ddim trwbl yr adeg honno - dim fel heddiw efo pobl yn ymosod ar ei gilydd. Ond yr adeg honno - doedd na ddim o'r fath, dim. Mi fydda pobl yn deud 'Helo, sut ydach chi wrth ei gilydd' ar y stryd.


Cyfrannwch

Anita Butler, Llanfairfechan
Cafodd fy nhad, Robert Henry Williams o Lanberis ei anafu yn Normandi. Trosglwyddwyd ef yn ol i ardal Middlesborough i ysbyty arbennig. Aeth fy mam i ymweld ag o, er nad oedd ganddi'r syniad lleiaf ble roedd Middlesborough.

Teithiodd ar y tren yno a chael cymorth gan bawb oedd o gwmpas. Fel mae eraill wedi dweud doedd ganddi ddim ofn. Roedd pawb 芒 chonsyrn am eu gilydd.

Ar 么l taith o gryn oriau cyrhaeddodd ysbyty Kirby moreside, ac roedd fy nhad wedi synnu ei gweld. Roedd o yn poeni lle oedd hi am aros y noson, ond cynigiodd gwraig ganol oed iddi fel hyn "if you don't mind sharing with my daughter, you can stay with us", a dyna wnaeth hi. Pan oedd yn amser iddi ddychwelyd i Gymru addawodd y wraig a'i theulu fynd i ymweld 芒'm tad a dyna wnaethant. Bu'r ddau deulu yn ffrindiau mawr am flynyddoedd wedyn.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy