成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plant blwyddyn 5 a 6 Ysgol Gynradd Llanllechid Caethwasiaeth - ddoe a heddiw
Gyda Chastell Penrhyn dafliad carreg i ffwrdd, mae plant dosbarth 5 a 6 Ysgol Gynradd Llanllechid wedi bod yn dysgu sut gwnaeth arglwyddi'r st芒d ennill eu cyfoeth ac am gysylltiad Bethesda a Jamaica.
Maen nhw wedi astudio hanes caethwasiaeth a Masnach Deg ac wedi bod yn cysylltu 芒 ffrindiau mewn ysgol yn Jamaica:

Beth yw caethwasiaeth?
Bethan
: Caethwasiaeth ydy pan 'da chi'n gwneud i rywun weithio i chi, ond ddim yn eu talu nhw, jest dweud 'rhaid i chi weithio i ni, a dyna sut mae hi.'

Pobl wyn oedd yn defnyddio pobl du, oherwydd eu bod yn wahanol. Roedd hyn yn annheg - dylai pawb gael hawliau cyfartal.

Owen: Roedd y bobl yn dod o Affrica ac yn cael eu hanfon i'r Carib卯. Roedden nhw'n gorfod mynd mewn cychod dros y byd. Roedd rhai'n gorfod cerdded o'u tai nhw at y m么r, ac weithiau roedd hyn yn cymryd misoedd.

Jac: Roeddent yn cael eu cadw yn y llongau yn y middle passage. Roedd rhai yn cael eu rhoi'n sownd i'w gilydd efo cadwyni. Yn aml roedd un yn marw - a basan nhw wedi eu clymu i'r person marw yna am ddyddiau.

Pwy oedd yn gwneud elw o gaethwasiaeth?
Castell PenrhynIwan: Roedd y bobl wyn yn defnyddio pobl ddu i dyfu siwgr yn y caeau yn Jamaica. Ddaru rhai, fel Arglwydd Penrhyn, wneud lot o bres ac adeiladu Castell Penrhyn. Wedyn ddaru nhw agor chwarel, ond doedd y gweithwyr yn y chwareli ddim yn cael eu talu llawer. Roeddent yn cael tua phunt - ac ar 么l i'r gweithwyr fynd ar streic, ddaru'r Arglwydd Penrhyn rhoi punt i bob un aeth yn 么l - punt-y-gynffon roedden nhw'n ei alw - fel blackmail.

Bethan: Roedd arglwyddi Penrhyn yn bobl creulon a chas. Ond mae'r castell yn anferth a phosh.

Owen: Ddaru ni fynd yno a gwisgo i fyny fel plant o'r hen oesoedd, a mynd i'r ball room efo piano mawr gwyn a chandeliers, a chwarae efo teganau plant y chwarelwyr a rhai plant Arglwydd Penrhyn.

Mae ein hysgol ni am gael wal dros yr haf yng Nghastell Penrhyn i wneud arddangosfa am bopeth da ni wedi ei ddysgu. Da ni am ddangos ein prosiect ar gaethweision ddoe a heddiw.

Ddaru caethweision Jamaica ddechrau ymladd yn 么l?
Jac
: Da ni wedi dysgu am y caethwas Sam Sharpe. Roedd o eisiau i bawb stopio gweithio er mwyn i'r perchnogion beidio cael pres, ond nid i gwffio amdano - passive resistance.

Bethan: Ond mi wnaeth rhai eraill gwffio a rhoi llefydd ar d芒n, ac yn y diwedd ddaru'r meistri ddechrau eu gadael nhw'n rhydd oherwydd roeddent yn gwybod y bysen nhw'n dal i wneud pethau fel 'na yn y dyfodol.

Iwan: Daeth caethwasiaeth i ben yn y diwedd yn 1838 a chafodd Jamaica annibyniaeth yn 1962.

Beth am gysylltiad eich ysgol chi efo Jamaica heddiw?Plant o gwmpas y cyfrifiadur
Jac
: 'Da ni wedi cael pen pals dros y we o Jamaica. Roeddent wedi sgwennu storis bach am sut roeddent yn teimlo am gaethwasiaeth, a dweud ei fod yn ddrwg ac y dylai pawb gael eu trin yr un fath. Mae'n hiliol i bobl wyn gymryd mantais o bobl du - dylai pawb ddod ymlaen efo'i gilydd yn gyt没n.

Ddaru Mis Bev a Mis Donna ddod o Jamaica i'n hysgol ni i siarad am eu hysgol nhw. Ddaru ni flasu eu bwyd, fel tamarind a jackass corn - roedd hwnna reit galed! Ddaru ni hefyd gael busters a phethau coconut pinc a gwyn - pethau melys iawn! Dwi'n mynd ar cr诺s i Jamaica ym mis Tachwedd a dwi'n edrych ymlaen at weld yr ynys.

Oes yna gaethweision yn dal i fod heddiw?
Bethan
: 'Da ni hefyd wedi dysgu bod yna blant sy'n gaethweision heddiw, ond os wnewch chi brynu bwyd Masnach Deg mae'n dweud nad yw plant na chaethweision wedi ei wneud o. Felly mae'n rhoi siawns i chi wneud dewis, a gwybod na fydd yr arian yn mynd i rai sydd efo caethweision.

Mae rhai teuluoedd yn dlawd iawn yn Affrica ac maen nhw angen pres. Fel, ar 么l i'r tad farw, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio bedd, ac mae cyflogwyr yn menthyg arian iddyn nhw, ond wedyn yn dweud 'os na fedrwch chi dalu ni n么l, rhaid i'ch plant weithio i ni'. Wedyn maen nhw'n bwydo'r plant, ond maen nhw'n methu talu am hynny felly mae'n nhw dal yn gaethweision.

Owen: Mae yna farc ar fwydydd Masnach Deg, mae'n edrych fel dyn yn chwifio.

Rhiannon: Faswn i'n meddwl fod y plant sy'n gaethweision r诺an yn falch o bethau fel Masnach Deg a Comic Relief.

Nid yw caethwasiaeth yn deg iawn - mae defnyddio pobl o wahanol liw i weithio i chi fel yna yn anghywir.

  • Bydd y gwaith mae'r plant wedi bod yn ei wneud ar hanes caethwasiaeth ynghyd 芒 fideo gwrth-hiliaeth maen nhw wedi ei greu yn rhan o arddangosfa Sugar and Slavery - The Penrhyn Connection yng Nghastell Penrhyn yn ystod 2007.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy