Ar hyd y canrifoedd, bu tyniad at y m么r ym m锚r esgyrn nifer o fechgyn Cymru - gyda'i addewidion o wledydd dieithr, profiadau egsotig ac anturiaethau cyffrous. Ac yn wir, n么l yn y pumdegau a'r chwedegau, cymaint oedd nifer yr hogiau Cymraeg aeth i weithio ar y Blue Funnel Line yn Lerpwl fel iddi gael ei hail-enwi ar lafar yn Welsh Navy.Roedd y gyfres o ddwy raglen ar 成人快手 Radio Cymru, Hogiau'r Welsh Navy yn adrodd hanesion y rhai o ogledd Cymru a brofodd ryfeddodau ar y Blue Funnel Line, yn eu geiriau eu hunain.
Roedd y gyfres yn adrodd sut aeth llawer o'r hogiau, rhai mor ifanc 芒 16 oed, dros y byd i gyd, yng nghwmni bechgyn tebyg iddyn nhw eu hunain, o Sir F么n, Pen Ll欧n a gweddill gogledd orllewin Cymru.
Roedd nifer wedi gweld bechgyn h欧n na nhw oedd eisoes yn gweithio ar y llongau, yn dychwelyd i'w pentrefi a threfi, gyda lliw haul, pres yn eu pocedi ac, yn fwy na dim, profiadau na allai'r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru ond breuddwydio amdanyn nhw. Yn sicr, rhamant ac antur a ddenodd lawer i fywyd ar y m么r, ac os oedd y bywyd hwnnw i'w gael yng nghwmni Cymry Cymraeg fel y nhw eu hunain, gorau oll.
"O'n i 'di meddwl mynd i'r m么r erioed, ers yn blentyn," meddai Dylan Parry o Waunfawr yn wreiddiol, ond r诺an yn byw yn y Felinheli.
"Ac mi ddaeth yna ryw cefnder i mi lawr o Lerpwl ac roedd o'n deud lle mor dda oedd ar y Blue Funnel a gymaint o hogiau Cymraeg oedd yn hwylio hefo'r cwmni. Ac es i fyny i Birkenhead - lle o'r enw Odyssey Works - a phan es i mewn drwy'r drws y boi cyntaf i nghyfarch i oedd Cymro o'r enw Mr Griffiths ac oedd pawb yn anelu tuag ato fo i dr茂o cael llong dda..."
Profiad tebyg gafodd Gareth Jones o Gaergeiliog: "Mi ddois i ar y Blue Funnel a'i joinio hi yn Birkenhead a ffeindio bod yna lot iawn o ddynion Cymraeg," meddai. "Y peth cynta' oeddech chi yn weld oedd dynion o Fangor, Pwllheli ac Amlwch ar y llong."
Ac i lawer oedd erioed wedi bod ymhellach na'u milltir sgw芒r, roedd y teithiau yn rhai maith a rhyfeddol, wrth iddyn nhw fynd i'r dwyrain pell yn hel a chludo nwyddau.
Roedd yn sicr yn gyfle i weld llefydd na fyddent erioed wedi eu gweld oni bai iddyn nhw ddewis y llwybr gwaith hwn, fel yr eglura Tony Jones o Rhiw, Ll欧n.
"Gadael Birkenhead i Curacao, am bunker - d诺r ac oel - drwy'r Panama Canal ar draws y M么r Tawel a thri porthladd yn Japan - Yokohama, Nagoya a Kobe. Wedyn oeddan ni yn mynd i Pusan yn Korea, Taiwan... ac wedyn oeddan ni yn Hong Kong, the jewel of the east, y porthladd gorau gen i yn y dwyrain pell, wedyn Singapore, Port Sweatenham a Ceylon wedyn i ddarfod llwytho'r llong hefo te, mewn chests - os oedd y te'n ysgafn ac yn mynd ar y top - Cape Town neu Durban wedyn i gael bunker eto a chyrraedd n么l a docio yn Lerpwl."
Roedd y gwaith ar y llong yn aml yn galed, gyda'r hogiau ifanc yn gweithio ar y dec, yn peintio, crafu, golchi, sgwrio a chario. Ac roedd y chwarae yn galed hefyd, yn 么l rhai o'r stor茂au digon mentrus gaiff eu hadrodd gan bobol fel Michael Hughes o Borthmadog a gafodd ei fygwth gyda gwn a'i glymu gan f么r-ladron yn dwyn y nwyddau ar fwrdd y llong.
Roedd llawer o gapteiniaid y Blue Funnel yn Gymry, gan gynnwys tad y gyflwynwraig Si芒n Pari Huws, Gwyn Pari Huws, a dreuliodd yrfa oes ar y m么r.
Pan oedd Si芒n yn ifanc roedd ganddo swydd ar y lan fel Marine Superintendent, ond roedd yn dal i dreulio llawer o amser ar y d诺r. Cafodd Si芒n ei magu yn Birkenhead ac mae cariad at y m么r yn rhywbeth a etifeddodd gan ei thad, a fu farw ddwy flynedd yn 么l.
"Mi fu dad yn gweithio i'r Welsh Navy ei hun yn y 50au," meddai Si芒n. "Roedd y m么r yn ei waed o, a mi ges i a fy nau frawd ein magu ar gychod. Rydyn ni'n dal i gadw cwch dad yn harbwr Caernarfon ac yn ei hwylio'n rheolaidd. Dwi yn hapus iawn ar gychod, am wn ei fod yn dod 芒 fi yn agosach at dad. Mae'n gyfle i ddianc yn tydi? Y rhyddid, a'r antur."
Mae Si芒n, sydd nawr yn byw ger y Fenai yn Felinheli, yn parhau i hwylio yn aml ac wedi hwylio ar draws yr Iwerydd ar y Tall Ships hefyd.
"Mi es i hwylio hefo fy ffrind o Abersoch i Enlli diwrnod o'r blaen, ar ddiwrnod braf o haf. Be gei di well?"
Manylion rhaglen 2Atgofion Meirion Pugh Jones o Ddyffryn ArdudwyAtgofion Dylan Parry o'r Felinheli