成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Valmai Rees yn adrodd hanes wrth arwain daith cerdded o amgylch Moeflre Dewch am dro i Foelfre
Dyma Valmai Rees, un o'r gwirfoddolwyr sy'n tywys ymwelwyr o amgylch Moelfre, yn s么n am ymweliad yr awdur Charles Dickens 芒'r pentref.

"Dwi'n cerdded o leiaf bedair milltir bob dydd o amgylch Moelfre a dwi'n nabod yr ardal yn dda. Felly pan ofynnwyd imi dywys rhai o'r teithiau cerdded o amgylch y pentref, doedd waeth gen i gerdded efo'r criw neu ddim!

Dwi wedi arwain y rhan fwyaf o'r teithiau cerdded ond yr un Charles Dickens yw fy hoff un.

Dwi wastad wedi bod yn hoff iawn o ddarllen ac mi ddarllenais lyfrau Charles Dickens i gyd yn hogan fach gan eu bod nhw yn nh欧 nain. Roeddwn yn rhyfeddu i ddyn mor enwog ddod i Foelfre ac mi ddysgais ar fy nghof ddarnau o'r bennod yn ei lyfr Uncommercial Traveller oedd yn ymwneud 芒'i ymweliad.

Charles Dickens

Y traddodiad yw i Charles Dickens aros mewn t欧 o'r enw Bryn Peris pan ddaeth yma yn Nhachwedd 1859 i sgwennu am drychineb y Royal Charter. Mae eraill yn dweud mai yng ngwesty'r Albion ym Mangor y gwnaeth o aros, ond roedd nain yn benderfynol mai ym Mryn Peris yr oedd o - ac mae 'na d欧 o'r un enw yn dal yma heddiw.

Yn ei lyfr, soniodd am y storm fawr a'r cyrff ar y traeth oedd mewn cyflwr ofnadwy wedi eu malurio ar y creigiau. Dim ond oddi wrth y tat诺s oedd arnyn nhw roedd hi'n bosib adnabod rhai o'r cyrff - yn enwedig y llongwyr.

Mae'n rhaid hefyd ei bod yn ffasiwn i brynu parot ar y pryd gan fod derbynneb am barot ym mhocedi rhai o'r cyrff.

Roedd Dickens wedi rhyfeddu efo'r Rev. Roose Hughes a soniodd lot amdano. Fe ysgrifennodd gannoedd o lythyrau at berthnasau'r rhai a fu farw. Wrth ddod i'r eglwys fach yn Llanallgo i weld corff byddai'n rhaid iddyn nhw wisgo mwgwd i'w rhwystro rhag gweld y cyrff eraill.

Cofeb yn Eglwys Llanallgo i'r rhai a fu farw yn nhrychineb y Royal Charter

Claddwyd y cyrff bob yn bedwar mewn beddi a'u codi i'w dangos i'r teulu. Hynny effeithiodd ar iechyd Roose Hughes a fu farw 'chydig o flynyddoedd wedyn.

Dwi wedi gweld llythyr sy'n gwahodd Roose Hughes a'i wraig i fynd i weld merched Charles Dickens yn Llundain, ond dwi ddim yn si诺r os aethon nhw.

'Da ni wedi cael pobl reit academaidd ar daith Charles Dickens a rhai sy'n hoff iawn o gerdded. Weithiau dydw i ddim yn si诺r faint o'r stori maen nhw ei eisiau tra'n cerdded ond rydym yn stopio yn Eglwys Llanallgo i ddarllen 'chydig o Dickens.

Nod arall y teithiau ydy dangos i bobl ddieithr ein bod yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd. Mae pob un o'r tywyswyr heblaw am un yn siarad Cymraeg ac rydym yn siarad Cymraeg efo'n gilydd ar y teithiau cerdded. Mae rhai o'r ymwelwyr yn synnu'n fawr."

Am ragor o fanylion am y teithiau cerdded, cysylltwch 芒 Gwylfan Moelfre ar 01248 410277.

  • Ymlaen i straeon am rai o forwyr y pentre yng nghwmni Gwilym Hawes...

  • Achub criw yr Hindlea

  • Suddo'r Royal Charter

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy