成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Heulwen Jones, Manon Adams o Borthmadog a Miriam Freiter o'r Unol Daleithiau Cysylltiad Milwaukee
Ers iddi ymddeol, mae'r nyrs o Hen Golwyn, Heulwen Jones, wedi cael cyfle i dreulio mwy o amser yn hel achau'r teulu ac wedi dod o hyd i gysylltiadau diddorol iawn dros F么r yr Iwerydd.

"Yncl Jac sbardunodd fi i fynd ati flynyddoedd yn 么l wrth ymchwilio i gangen Beddgelert a Nantmor o deulu fy nhad yn ffermydd Corlwyni a Charneddi. Pan gefais i'r goeden deuluol, doedd fawr ddim arni a phrin ddim dyddiadau. Felly dros y blynyddoedd, dw i wedi llwyddo i roi llawer mwy arni a dw i'n dal i ychwanegu ati.

Gruffydd PrichardDwi wedi gwneud gwaith ymchwil i Gofnodion Plwyf Beddgelert yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yno cefais hyd i bapurau fy hen hen daid Gruffydd Prichard a chael gwybod llawer iawn mwy am ei gefndir. Yn Archifdy Gwynedd, cefais hyd i lythyr o 1937 gan Bob Owen, Croesor, yn s么n am goeden deuluol ffermydd Corlwyni a Charneddau, er bod nifer o gamgymeriadau ynddo fo. Ond, mae'r llythyr yn s么n am gangen o'r teulu a ymfudodd i America ac fe daniodd hynny fy nychymyg!

Ychydig dros flwyddyn yn 么l, ysgrifennais lythyr at Ninnau a chael tri llythyr yn 么l. Fe ddarganfyddais fod pedwar o blant Evan Powell, cefnder cyntaf fy hen hen daid wedi ymfudo yno yn niwedd y 1860au.

Robert Powell a'i deuluFe gefais yr hanes i gyd a lluniau o Robert Powell, y mab hynaf, a'i deulu. Roedd wedi ymsefydlu yn Williamsburg, Iowa a rhoddwyd cyfeiriad ei unig or-wyres, sef Miriam. Roedd ein cyfarfod fis Awst 2002 yn llawn cynnwrf.

Ymsefydlodd y tri phlentyn arall sef William, Ann a Jane ym Milwaukee. Dw i wedi cael gafael ar gopi o gofiant William Powell (Gwilym Eryri) syn s么n am ei bedwar mab, George, Rees, William ac Arthur.

Cefais wybod hefyd yr arferai William Powell ddringo'r Wyddfa a gwneud te i ymwelwyr pan oedd yn lanc ifanc. Pan aeth i Milwaukee cafodd William waith fel swyddog mewnfudo i Gwmni Rheilffordd St Paul a Chicago ac roedd yn enwog am ei garedigrwydd at fewnfudwyr o Gymru. Enwyd eglwys a threflan yn Ne Dakota yn Powell er anrhydedd iddo.

Ysgrifennodd Powell lawer iawn o farddoniaeth ac erthyglau i bapur Cymraeg Cymry America sef Y Drych. Roedd ei daid Hywel Griffith hefyd yn fardd gwlad enwog yn ei ddydd. Bu farw William yn 69 oed ym 1910.

Prin ydy'r wybodaeth am y ddwy chwaer, Ann a Jane Powell a'r dasg nesaf fydd cael hyd i'w disgynyddion nhw. Fe arhosodd o leiaf tri o blant Evan Powell ym Mhrydain. Roedd Hywel yn cadw siop ym Meddgelert, bu John yn gweithio fel clerc yng ngwaith cemegol Widnes a phriododd Laura, yr ieuengaf, ac ymsefydlu ym Meddgelert. Ganwyd ei phlant hi yn Nh欧 Isaf sydd bellach yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dan yr enw T欧 Llywelyn.

Cyn hir dw i'n gobeithio cwrdd 芒 gor-wyres Laura, Elaine, syn byw yn Efrog Newydd. Ac mae'r ymchwil yn ddiddiwedd ond yn gynhyrfus iawn!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy