成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Madge Wing yn ferch ifanc Gwraig y GI
"Over-paid, over-sexed and over here" oedd y farn gyffredin o'r GIs yn ystod yr ail ryfel byd, ond nid felly roedd Madge Wing o Fodorgan yn ei gweld hi pan syrthiodd mewn cariad 芒 milwr Americanaidd oedd yn gweithio yn y Fali.
Mae Madge bellach yn 82 oed ac wedi byw yn yr Unol Daleithiau am bron i 60 mlynedd.

Ar ymweliad diweddar 芒 Chymru, bu'n hel atgofion am y cyfnod gyda'r gyflwynwraig Si芒n Pari Huws gan esbonio sut y daeth yn un o'r 6,000 o 'GI Brides' a hwyliodd i America am fywyd newydd ar gyfer rhaglen arbennig ar 成人快手 Radio Cymru.

Roedd Madge (Williams bryd hynny) yn ferch ifanc annibynnol yn byw gyda'i chwaer ym Mangor ac yn gweithio fel gweinyddes pan dorrodd y rhyfel.

Roedd y Drill Hall ar Glyn Road yn lle pwysig yn ei bywyd ar y pryd gan ei bod yn mynychu dawnsfeydd yno, ac yno yr aeth am ei d锚t cyntaf efo swyddog yn yr awyrlu yn y Fali, Bob Wing.

O fewn mis gofynnodd y g诺r ifanc o Maine, UDA, i Madge ei briodi o dan y bont ger yr orsaf drenau ym Mangor.

Meddai Madge: "... a finna'n meddwl 'dim chance. Faswn ni byth licio mynd a gadael yr hen wlad. Ond wedyn, saith mis wedyn, oeddan ni yn priodi ym Mangor."

Bob a Madge Wing"Roeddan nhw'n dweud eu bod nhw'n over-paid, over-sexed and over here ond to'n i ddim yn gweld hynny'n fair. Oni'n gweld bod Bob yn ddyn da."

Doedd tad Madge ddim yn cytuno gyda'r briodas, ac oherwydd hynny, ddaeth dim teulu i'r briodas, dim ond cyfeillion y ddau.

"To'ddan nhw ddim isho i mi fynd i 'Merica wrth gwrs. A nhad yn dweud, 'wir ddyn,' medda fo, 'os briodi di'r Yank yna mi fyddi di wedi gwneud dy wely, a mi fydd raid i ti orwedd ynddo fo'... A dyna be 'nes i."

"A finna'n ifanc, doeddwn i ddim yn meddwl faswn i hiraeth, dim ond meddwl 'dwi'n mynd i 'Merica - adventure mawr ynte?'. Ond wyddoch chi be? Oni 芒 hiraeth am flynyddoedd. Oeddan nhw (y teulu) yn meddwl mod i wedi mynd am byth - roedd Merica yn ddiwedd y byd yr adeg honno 'toedd?"

Madge heddiwEr gwaetha'r ffrae deuluol, roedd gorsaf Bodorgan yn orlawn o deulu yn ffarwelio pan ddaeth yn amser gadael cartref i ymuno a'i g诺r newydd yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd Madge a Bob ddwy ferch ac mae bellach yn hen nain. Bu farw ei g诺r naw mlynedd yn 么l.

Bu Madge yn dweud ei stori ar raglen Gwraig y GI ar 成人快手 Radio Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy