成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Car mewn lluwch yn ystod eira mawr 1982 Eira mawr
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael eich cau mewn o ddifri gan eira am ddyddiau lawer? Un sydd ag atgofion clir am un storm eira ddifrifol ydy Eurwen Jones o'r Bala.
Heddiw, mae'r s么n lleiaf am eira yn rhywbeth sy'n aml yn codi ofn a phanig diangen. Ond tybed ai cof am stormydd eira cyn dyddiau'r aradr eira a pheiriannau cryfion sy'n gyfrifol am hyn? Adeg y byddai'r wlad yn troi'n llonydd am ddyddiau, neu hyd yn oed wythnosau, wrth i'r lluwchfeydd garcharu pobl yn eu tai.

Yn sicr, mae stori Eurwen, a thri gwestai arall a ymddangosodd ar raglen Ro'n I 'Na gyda Si芒n Pari Huws ar 12 Chwefror, yn ddigon brawychus.

Roedd Eurwen Jones yn ferch yn ei harddegau cynnar pan, yn 1947, daeth y stormydd eira enwog hynny. A hithau yn byw gyda'i theulu ar droed mynydd Hiraethog, roedd eu fferm yn anghysbell ac fe'u caewyd hwy i mewn.

Roedd ei mam yn disgwyl, ym mis Ebrill i fod, ond aeth i boenau, a daeth yn amlwg bod angen triniaeth ysbyty. Rhaid oedd i'w thad gerdded trwy'r eira oedd "fel blawd" am bum milltir i ddefnyddio ff么n yn nh欧'r prifathro lleol.

Y meddyg agosaf oedd Dr Thomas yn Ninbych, ond doedd dim gobaith o gael mam Eurwen i ysbyty gyda'r holl ffyrdd wedi cau a lluwchfeydd dros y lle.

Gwnaeth Dr Thomas ap锚l radio i ofyn am bobl i wirfoddoli i glirio'r ffordd, ac yn anhygoel daeth 80 o ddynion gyda rhawiau i geisio clirio ffordd at y fferm, ond y munud roedd darn wedi ei glirio, doi'r eira i'w orchuddio n么l. Y diwedd oedd iddyn nhw gludo'r fam ar camp bed wedi ei addasu yn stretcher wedi ei gorchuddio 芒 photeli d诺r poeth, cynfasau a charthenni, a'i chario ddwy filltir a hanner i gyfarfod 芒 lori'r cyngor, mewn tywydd trybeilig o wyntoedd ac eira, gan aros mewn ffermdai ar y ffordd i roi mwy o dd诺r poeth yn y poteli.

Wedi'r ffasiwn daith, llwyddodd i gyrraedd ysbyty Dinbych gyda dim ond hanner awr i'w sbario, ac yno ganed merch fach iddi. I ddangos pa mor wael oedd y gaeaf caled hwnnw, allodd hi ddim dychwelyd adre nes i'r eira feirioli digon, a doedd hynny ddim hyd at fis Mai.

"I feddwl bod yna dros 50 mlynedd ers pan mae hynny wedi ddigwydd i mi, mae'r profiad, wel, yn dal yn fyw iawn yn fy nghof i achos mi oedd o'n beth dychrynllyd iawn," meddai Eurwen.

Ac enw'r ferch fach a aned o dan amgylchiadau mor ddramatig? Eira wrth gwrs, beth arall.

  • Bu Eurwen yn dweud ei stori ynghyd 芒 Brian Walters o Gaerfyrddin, y darlledwr Sulwyn Tomos a Mair Lloyd Davies o Dregaron wrth y cyflwynydd Si芒n Pari Huws ar raglen Ro'n I 'Na ar 13 Chwefror ar 成人快手 Radio Cymru.

  • Cyfrannwch

    Goronwy Davies. Abergele
    mae y teulu yma yn perthyn o bell imi. Rwyf yn cofio mynd i'r Rhiwie yn yr haf 1947, roeddwn yn 4air oed roedd fferm yn y cyffinie wedi colli oddeuty 200 o ddefaid yn yr eira dim ond 15 ari oroesi'r gaeaf. Cwrddais ar eneth yn rhyddlan rhai blynyddoedd wedyn.


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy