Bellach yn byw yn Rhuthun, mae'r diwrnod yn dal yn fyw iawn yn nghof Mr Williams: "Roedd fy nheulu'n arfer rhedeg siop yn y Bala. Gan ein bod yn gwerthu pysgod, Wil Fish oedd fy nhad - neu Wncl Wil i bawb yng Nghapel Celyn. "Mi fyddwn i yn gyrru'r fan o amgylch y wlad yn gwerthu nwyddau ac yn gwneud y siwrne bob dydd Llun a dydd Iau gan gychwyn i fyny drwy Llidiardau, draw am Fryn Ifan ac i lawr am Fryn Celyn. "Roedd gen i drefniant efo prifathrawes Ysgol Capel Celyn, Mrs Edwards, i stopio y tu allan i ysgol y pentre ac mi fyddai'r plant yn rhedeg allan i wario eu ceiniogau. Wagon Wheels oedd y peth mawr ar y pryd! "Daeth Path茅 News i ffilmio hanes y ffermydd cyn i'r argae ddod. Mi ddaru nhw ofyn os buaswn i'n meindio eu bod yn ffilmio'r fan, ac mae'r archifau o hanes Tryweryn wastad yn fy nangos i yn fy fan, a phlant fferm Tynant yn prynu torth yr un - roedden nhw'n dorthau mawr, pedwar pwys yr un yr adeg honno. "Roedd tua phymtheg o blant yn fferm Tynant, yn byw mewn dim ond tri neu bedwar 'stafell. Mae plant Tynant wedi chwalu i bob man erbyn hyn. "'Dwi'n cofio adeg y tywydd sych yn y 1980au pan ddaeth Capel Celyn i'r golwg unwaith eto. Mi ddaeth ag atgofion o'u gweld nhw'n symud y cerrig beddi a phopeth yn 么l i mi."
|