成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cricieth Trefi a phentrefi 2
Mae gwefannau trefi a phentrefi yn adnodd ardderchog ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn ffordd dda i'r alltud gadw mewn cysylltiad 芒'u hardal enedigol.

http://www.ffestiniog.org.uk/
Gwefan Saesneg ydy hon i ymwelwyr, busnesau a chymuned Blaenau Ffestiniog a'r cylch gyda newyddion cymunedol, hanes a manylion Cyfle Ffestiniog yn cael eu cyflwyno hefyd - i gyd ar wefan slic a chlir ei ddyluniad. Mi allwch chi hefyd ddarllen erthyglau o'r papur bro lleol, Llafar Bro, drwy gyswllt o'r wefan.


http://www.holyhead.com/
Gwaith caled Ann Roberts ydy'r wefan hon ond mae yna amrywiaeth eang o ddeunydd ar gyfer pobl leol, yr alltud a'r ymwelwyr. Mae'r pynciau dan sylw yn cynnwys adloniant, chwaraeon, hanes, busnesau, cyhoeddiadau teuluol, negesfwrdd ac adran blant. Mae gwasanaeth llogi llety ar gael a hyd yn oed ychydig o ryseitiau lleol.


http://www.llanfairfechan.org.uk/
Cymdeithas twristiaeth ac adnoddau y pentref sy'n gyfrifol am y safle cynhwysfawr yma sy'n cynnwys rhith-daith o amgylch Llanfairfechan ac yn rhoi manylion nifer o fannau diddorol. Ceir gwybodaeth lawn ar fudiadau lleol ac unrhywbeth arall o bwys i ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd.


http://www.penllyn.com
Mae'r wefan cwbl ddwyieithog hon yn gwasanaethu prif drefi a phentrefi Pen Ll欧n ac yn rhestru busnesau, gwasanaethau a gwybodaeth i ymwelwyr. Mae 'na adran hanes gynhwysfawr a newyddion, lluniau a mapiau. Ond, fel y g诺yr unrhyw ymwelydd 芒 Phen Ll欧n, rydych chi'n debygol o fynd ar goll ar hyd lonydd cul y safle!


http://www.llyn-wales.co.uk/
Mae gan David Goadby luniau hardd iawn ar ei safle personol ac awgrymiadau am lefydd bwyta, llefydd i ymweld 芒 nhw a chyfeiriadur busnes lleol.


http://www.penrhyndeudraeth.com/
Dyma'r pentref cyntaf i gael ei gysylltu 芒'r rhwydwaith ym Mhrydain. Mae'r wefan yn dwt o ran cynllun ac yn cynnwys hanes lleol, mudiadau a chlybiau ardal Penrhyn a Port a gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau yn yr ardal.


http://www.porthmadog.co.uk
Y cynllun clir sy'n gwneud y wefan hon yn hawdd ei defnyddio a hynny er mwyn rhoi gwybodaeth i dwristiaid a siopwyr neu i ddysgu am hanes neu newyddion y gymuned. Rhaid mynd i'r brif ddewislen i fynd weld y safle yn Gymraeg ac er bod nifer o'r lincs wedi torri neu'r tudalennau ddim ar gael, mae hon yn wefan ddeniadol a gwerthfawr.


http://www.rhosneigr.org.uk/
Fe fydd y lluniau gwych ar y wefan yma yn eich denu yn syth heb s么n am wybodaeth eglur a'r amrywiaeth o bethau cynhyrfus i'w gwneud yn yr ardal. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys y cyfeiriadur o adnoddau a busnesau ac adrannau ar hanes a natur, y cyfan wedi'i gyflwyno'n syml.


http://www.trefriw.com/
Mae safle'r pentref hwn yn Nyffryn Conwy yn edrych yn daclus, lliwgar ac yn hawdd i lywio drwyddo. Digon o wybodaeth ddefnyddiol am adnoddau a busnesau yn Nhrefriw a chysylltiadau 芒 gwefannau lleol eraill.


http://www.croeso.com/
Dyma gasgliad o wefannau i rai o drefi'r gogledd gan gynnwys Conwy, Harlech a Llandudno i gyd ar yr un cynllun, sydd fymryn yn amaturaidd. Ar gyfer pob tref, mae 'na wybodaeth ddefnyddiol am lle i aros, atyniadau i dwristiaid a dewis eang o luniau.


http://www.llanfairpwll.org
Mae'r safle hwn yn rhoi gwybodaeth am fusnesau'r pentref, cymdeithasau ac addysg. Mae'r adran Hanes yn ddiddorol iawn ac yn egluro sut y cafodd y pentref ei enw hir byd-enwog. Ond, yn anffodus mae 'na sawl cysylltiad wedi torri ar y safle ac adrannau yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a dydi'r cysylltiad i'r tudalennau Cymraeg ddim i'w weld yn gweithio.


http://www.snowdonia-holidays-llanbedr.co.uk
Mae'r safle deniadol hwn wedi'i gyflwyno'n dda ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Disgrifir llefydd i aros, cyfleusterau ac atyniadau'r pentref mewn gair a llun defnyddiol iawn i ymwelwyr. Mae'r adran gymunedol yn tyfu ac o ddefnydd mawr i'r trigolion eu hunain. Awgrymwyd gan Roger Payne o Lanbedr.


http://www.moelfre.info/
Mae'r wefan yma yn llawn o straeon a digwyddiadau'r pentref, o w欧l y bwganod brain i'r ymgyrch i dacluso'r traeth. Mae rhai o'r straeon wedi dyddio, ond yn sicr mae digon ohonynt i ddiddanu pobl leol. Mae yna hefyd gysylltiadau ar gyfer busnesau lleol a fydd o gymorth i ymwelwyr, map o'r ardal a phwt am fywyd gwyllt y fro.


http://caergybi.com
Yn 么l y bobl sydd y tu 么l i'r wefan, fe wnaethon nhw ei chreu am eu bod wedi cael llond bol ar yr holl s么n am gychod, llongau a fferis sydd ar wefannau eraill am Gaergybi! Er mai enw Cymraeg y dref sydd ar y wefan, mae hi i gyd yn Saesneg. Ar wah芒n i'r tudalennau lluniau a'r dudalen gysylltiadau, does dim cymaint 芒 hynny o wybodaeth leol i'w gweld yma eto.


http://stiniog.com
Bwriad gwefan Prosiect Blaenau ydy ymchwilio a chofnodi hanes y diwydiant llechi yn y Blaenau. Mae yma fanylion am adeiladau lleol ac oriel o luniau o'r ardal yn y ganrif ddiwetha. Os oes amser gennych i'w sbario, maen nhw hefyd yn chwilio am gymorth i gynnal y wefan.

Am ragor o wefannau trefi a phentrefi, cliciwch yma.


http://www.rhiw.com
Y mae'r wefan yma yn llawn gwybodaeth ddifyr am hanes Rhiw. Cewch flas ar bywyd pentrefwr o'r 1900au, edrych ar lluniau o'r pentref dros y degawdau a darganfod pwy yn union oedd 'Plant Rhys Ddwfn'.
Cynigwyd gan Margaret Hughes o Gaer


http://llansannan.org.uk/
Cadwch i fyny gyda newyddion a hanesion y pentref.
Diolch i Eifion M Jones o Lansannan


http://www.llanddaniel.co.uk/
O'i hanes hynafol i'w bywyd a busnesau yn y 21ain ganrif, dyma gyfle i chi weld beth sy'n digwydd yn Llanddaniel Fab, Ynys M么n.
Cynnig gan Manon Jones, Llanddaniel Fab


http://www.llanystumdwy.com/
Er fod y pentref yn fach, mae'n ymddangos ar yw wefan yma bod yn ddigon i'w wneud yna.
Awgrymwyd gan Ian Parri


http://www.cymdeithashanesmechell.co.uk
Ewch yn 么l mewn amser i hanesion bywydau cymeriadau pentref Llanfechell, Ynys M么n.
Awgrymwyd gan JR Williams


Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy