成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
John Eilian
John Eilian

Ganwyd: 1904

Magwyd: Llaneilian, M么n

Addysg: Ysgol Penysarn, Ysgol Ramadeg Llangefni, Coleg Prifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen.


Bardd, newyddiadurwr a golygydd cynta'r Cymro.

John Tudor Jones oedd enw iawn y newyddiadurwr a'r bardd a aned yn Llaneilian, M么n.

Ef oedd golygydd cyntaf Y Cymro pan sefydlwyd y papur newydd Cymraeg hwnnw yn 1932. Bu hefyd yn gweithio ar y Western Mail a'r Daily Mail, y Times of India tra roedd yn byw yno, ac i'r 成人快手 fel newyddiadurwr.

Yn ogystal 芒 bod yn olygydd cyntaf Y Cymro fe sefydlodd un o'r cylchgronau mwyaf blaengar erioed yn yr iaith Gymraeg, Y Ford Gron, yn 1930 gan ddod 芒 ffresni nas gwelwyd o'r blaen i gylchgrawn poblogaidd Cymraeg. Ef hefyd oedd golygydd y gyfres Llyfrau'r Ford Gron.

Bu'n gweithio yn Llundain a thramor fel newyddiadurwr cyn treulio 25 mlynedd olaf ei yrfa newyddiadurol gyda phapurau'r Herald yng Nghaernarfon lle'r oedd yn brif olygydd. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn aelod o gomisiwn a sefydlwyd gan y Llywodraeth i edrych ar y Wasg ym Mhrydain. C芒i'r papurau, a oedd yn cynnwys y Caernarfon and Denbigh Herald a'r Holyhead and Anglesey Mail, eu hargraffu yn Adeiladau Brunswick ar y maes yng Nghaernarfon. Llosgwyd yr adeilad yn ulw fis Ionawr 1984.

Enillodd John Eilian Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1947 ym Mae Colwyn a'r Goron yn 1949 yn Eisteddfod Dolgellau.

Er mai ar y teitl Meirionnydd yr enillodd ei Goron dywedodd mai M么n oedd ar ei feddwl wrth gyfansoddi'r gerdd a'i deimladau tuag at yr ynys sydd ynddi mewn gwirionedd.

Bu bron iddo 芒 bod yn hwyr ar gyfer ei goroni gan i'w gar orboethi ar y ffordd i'r seremoni.

Un o gampau ei gerdd a enillodd i'r gadair oedd iddo ei chyfansoddi ar 'fesur Madog' un o'i arwyr ll锚n ers ei ddyddiau yn y coleg yn Aberystwyth, T. Gwynn Jones.

Yn wleidyddol roedd yn Geidwadwr ac yn frenhinwr pybyr a wrthwynebai'n llwyr Blaid Cymru a dulliau mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith. Er iddo lwyddo i ennill hyd at 11,000 o bleidleisiau fel ymgeisydd seneddol ym M么n, aflwyddiannus fu ei ymdrech i ennill yr ynys i'r Tor茂aid mewn etholiad cyffredinol yn y 1970au pan gollodd i Cledwyn Hughes.

Dyfarnwyd yr OBE iddo am ei wasanaethau i newyddiaduraeth ac yn 2004 dadorchuddiwyd plac er cof amdano y tu allan i'w gartref ym Mhenylan. Bu farw yn 1985.

Gyda diolch i Hywel Williams o Gaernarfon am yr enwebiad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy