成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sioeau
Rhosedau Cadw'r cadno draw
Mis Tachwedd 2004
Er bod y cadno coch wedi bod ar ymweliad 芒 chwt ieir Russell Jones yn y Bontnewydd mae'n edrych ymlaen at gyfnod prysur sioeau mawr y gaeaf yn ei ail ddyddiadur sioe:
Adeg y sioeau mawr

"Mae hi wedi cyrraedd yr adeg yna o'r flwyddyn eto lle mae sioeau mawr y flwyddyn yn cymryd rhan fawr yn ein bywydau ni, y fi a'r ieir. Mae popeth sydd wedi cael ei fagu yn ystod y flwyddyn yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn y sioeau yma.

Mae gen i bedair sioe yn y tri mis nesa. Y gyntaf ydy Sioe Clwb Dofednod Gwynedd sydd yn cael ei chynnal yn y sied wartheg ar gae Sioe M么n ym Mona ddiwedd Tachwedd.

Mae tua 450 o adar yn y sioe yma lle mae na ddosbarthiadau i adar ifanc sydd wedi cael eu magu yn ystod y flwyddyn (young stock classes). Mi fydda i yn lecio dangos adar yn y dosbarthiadau yma am ei fod yn profi safon yr adar rydych chi wedi bod yn eu cynhyrchu yn ystod y flwyddyn ac maen nhw hefyd yn erbyn adar o'r un flwyddyn ac oedran.

Dwy i芒r Cochin yn pigo bwydMi fydd na young stock classes mewn sioeau eraill o'r ha' ymlaen ond dim ond un neu ddau o ddosbarthiadau sydd yna. Dydyn nhw ddim 'run peth 芒'r rhai sydd yn y gaeaf ac at y dosbarthiadau yma mae pawb yn edrych ymlaen fwyaf, yn enwedig pobl sy'n cadw adar mawr fel fi, er enghraifft y Cochin. Mae'r rhain yn cymryd o gwmpas blwyddyn i dyfu'n ddigon mawr i'w rhoi yn y dosbarthiadau yma; felly yr hwyrach yn y flwyddyn y gorau.

Deor yn gynnar

Efo'r rhain mi fydda i yn tr茂o deor cywion mor gynnar yn y flwyddyn ag sydd yn bosib - tua mis Mawrth neu Ebrill, neu'n gynt os 'di'n bosib, ond mae'n anodd eu cael nhw i ddodwy mor gynnar heb orfod mynd i lot o drafferth o roi goleuadau yn y cytiau. Am fod deorydd gen i dwi'n medru deor yn reit fuan heb orfod dibynnu ar yr ieir i ori ar yr wyau.

Mae cael cywion yn gynnar fel hyn yn rhoi digon o gyfla iddyn nhw dyfu yn naturiol trwy'r flwyddyn yn barod at y sioeau. Efo'r adar llai, ysgafnach, neu'r bantams, tydi hyn ddim yn drafferth ac mi fedrwch chi ddeor cywion yn yr ha ac mi fyddan nhw'n ddigon mawr i'w cystadlu erbyn y gaeaf heb drafferth.

Y cwt lle daeth y llwynog i ddwyn ieirYn anffodus tydi'r flwyddyn yma ddim wedi gorffen yn rhy dda am imi ddeor wyau Cochin ar ddechrau'r flwyddyn. Mi ges i ieir arbennig o dda heb unrhyw nam o gwbl arnyn nhw. Ond ym mis Mai mi ddoth y cadno coch draw a gadael efo dipyn o'n adar i, felly mae hi'n rhy hwyr i fagu mwy o Cochins tan y flwyddyn nesa r诺an.

Felly mi fydd yn rhaid disgwyl. Ar hyn o bryd dwi yn gorfod dangos yr adar rydw i yn eu defnyddio i fagu a tydw i ddim yn hoffi hyn am fy mod yn gorfod dangos yr un hen adar eto y flwyddyn yma: ond mae na bob tro flwyddyn nesa, gobeithio!

Mi es i sioe Clwb Gogledd Cymru efo pedwar aderyn - dau Cochin a dau Pekin ond dwi wedi bod yn dangos rhain ers y flwyddyn diwetha ac yn gwybod nad ydyn nhw ddim y gora o ran safon.

Ma 'na bwyntiau da a phwyntiau drwg yn y ddau ddosbarth ond drwy eu magu nhw'r flwyddyn nesa gobeithio gawn ni 'chwaneg o rai gwell.

Llwynog yn mynd 芒'r gorau

Mi gafodd y rhain ail a thrydydd ac roedd yr i芒r a enillodd y dosbarth yn wyres i'n i芒r wreiddiol i oedd hefyd yn yr un dosbarth. Roedd yr wyres yn berchen i rhywun arall oedd wedi prynu ei mam hi gen i ddechrau'r flwyddyn. Os fasa'r llwynog ddim wedi bod, mi faswn i wedi ennill efo'r i芒r ora rydw i wedi ei magu, ond mae'r llwynog bob tro yn mynd 芒'r rhai gorau am ryw reswm.

Y tri sioe nesa fydd y National Poultry Clwb of Great Britain yn Stoneleigh ar ddechrau Rhagfyr, y National Federation of Poultry Clubs yn Staffordshire ddiwedd Rhagfyr ac ar 么l hynny mae gen i sioe yn Perth yn yr Alban, y Scottish National, ddiwedd Ionawr.

Felly fydd gen i ddigon i fy nghadw i'n brysur am dipyn ac ar 么l hynny fydd angen canolbwyntio ar fagu hynny medra i o ieir a gwneud yn si诺r fod y cadno yn mynd heb ddim o'n ieir i flwyddyn nesa. Geith o fagu ei ieir ei hun os ydi o isho cyw i芒r ar ei bl芒t o!"

Ymlaen i fwy o hanes Russell.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy