成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sioeau
Russell Jones (llun:S4C) Dyn y dofednod
Mae Russell Jones o Rhosgadfan wedi gwirioni'n l芒n ar ieir - ac mae o eisiau lledaenu'r neges ymysg pobl ifanc eraill yr ardal!
Roedd Russell - sy'n adnabyddus bellach fel un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Byw yn yr ardd - yn un o'r ysgrifenyddion ieuengaf mewn dwy o brif sioeau'r gogledd. Fe fyddai wrth ei fodd os y byddai mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg.

Dyma oedd ei hanes ar y diwrnod cyn Sioe Dyffryn Ogwen 2004 pan oedd yn brysur yn rhoi 'siamp诺 a set' i'w ieir Tseineaidd, yn barod i'w dangos.

"Dwi'n treulio ryw hanner awr yn y rhoi bath i bob un ac yn eu golchi efo siamp诺 a conditioner - Pantene fydda i'n ei ddefnyddio fel arfer!" meddai.

"Wedyn, mi wna i roi d诺r oer drostyn nhw i wneud y plu yn sgleiniog, eu sychu efo tywel a wedyn defnyddio sychwr gwallt i fflyffio'r plu.

"Ma' nhw wrth eu boddau ac yn gwbod y rwt卯n yn iawn erbyn hyn!"

Dechreuodd diddordeb Russell mewn dofednod pan gynigiodd edrych ar 么l gwyddau ei gymdogion yn Rhosgadfan. Yna dechreuodd ddangos ei adar ei hun pan oedd yn 13 oed ac mae wedi bod yn dangos bob blwyddyn ers hynny.

Russell wrth ei waith yn Sioe Dyffryn Ogwen 2003Mae'n ysgrifennydd adran dofednod Sioe Dyffryn Ogwen ers 2003 ac mae r诺an yn ysgrifennydd yr un adran yn Sioe Gogledd Cymru, Caernarfon, hefyd.

"Mae 'na bobl o bob math yn dangos yno, o ffermwyr i bobl fel fi, sydd heb lawer o le i gadw ieir ond sy'n passionate amdanyn nhw," meddai. "Mae ieir yn gwneud anifeiliaid anwes neis, mae'n braf eu cael nhw o gwmpas y lle, ac mi allwch chi wneud ychydig o bres ohonyn nhw drwy werthu wyau - maen nhw'n cadw eu hunain mewn ffordd."

Mae hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig ydy hi i bobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol lleol: "Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud 芒 sioeau dros eu hanner cant - mae angen i fwy o bobl ifanc gymryd diddordeb.

"Dwi wedi dod i adnabod lot o bobl a gwneud lot o ffrindiau - mae'n braf cael rhannu'r diddordeb a chymryd rhan mewn digwyddiadau lleol," meddai.

Russell wrth ei waith yn Sioe Dyffryn Ogwen 2003Mae'n canolbwyntio ar gadw dau fr卯d prin ar hyn o bryd - ieir Andalucia a'r Cochin o Tseina - ieir mawr efo plu meddal i lawr at eu traed.

"Mae'r Cochin yn ieir sy'n tynnu'r llygad ac yn brin iawn," meddai. "'Does neb llawer yn eu cadw nhw ffordd hyn ac maen nhw'n gwneud yn dda mewn sioeau ac yn dodwy'n hirach na ieir cyffredin hefyd."

Mae wedi dod i adnabod ei ieir yn dda dros y blynyddoedd gan roi enwau fel Armond, Angharad ac Oswald iddyn nhw: "Mae gan ieir gymeriadau cryf," esbonia. "Os ydyn nhw wedi cael rhywbeth i'w pen, wneith dim byd eu stopio nhw ac mae'r pecking order yn ddiddorol hefyd.

"Yr ieir ydy'r bosus - mae'r ceiliog yn reit easy going ac yn gadael iddyn nhw gael y bwyd yn gyntaf; ond wedyn mae o isio rhywbeth yn 么l ganddyn nhw, felly mae o reit gyfrwys!"

Mae wedi rhoi tro ar fagu sawl br卯d o adar, gan gynnwys ieir Pekin Bantams, Rhode Island Red, Shamo a thwrcwn, ond ei gyngor i ddarpar-fridwyr ydy cadw at un neu ddau i ddechrau.

"Fy awgrym i ydy peidio a chael gormod o fr卯ds," meddai. "Mae 'na lwyth o adar ar gael ac mi allwch chi roi gormod ar eich pl芒t - sticiwch efo dau neu dri math i ddechrau a chanolbwyntio ar eu magu er mwyn cael eich ieir cystadlu.

"Mae Sioe Dyffryn Ogwen yn lle da i gychwyn am ei fod yr un diwrnod a sioe Caerwysg - felly mae'r dangoswyr mwya profiadol yn mynd i fan'no," ychwanega.

Ac unwaith y cychwynnwch chi, mae'n anodd iawn rhoi'r gorau iddi meddai Russell: "Mae'n anodd eu cael nhw allan o'r gwaed unwaith mae rhywun yn dechrau - unwaith rydych chi'n dechrau dysgu a dallt amdanyn nhw mae nhw yn y gwaed. Mi fydda i'n cadw ieir am byth r诺an!"

Ymlaen i fwy o hanes Russell.

Fel un o gyflwynwyr raglen teledu Byw yn yr Ardd, S4C, cafodd Russell wahoddiad i sgwrio gyda Beti George ar Radio Cymru.

Dyma Russell yn s么n ychwaneg am ei ieir;
Gwrandewch ar Russell.

Ar ei brofiadau o fod yn gyflwynydd teledu;
Gwrandewch ar Russell.

Ac un o'i hoff hob茂au - gweu.
Gwrandewch ar Russell.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy