成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sioeau
Russell gydag un o'i ieir Cochin Paratoi at sioe
Mis Awst 2004
Yma yn ei ddarn dyddiadur cyntaf, mae Russell Jones o'r Bontnewydd ger Caernarfon, sy'n cadw ieir yn ei ardd gefn, yn rhannu ei brofiadau o baratoi ei adar pluog i'w dangos yn un o'r sioeau lleol.

Dydd Gwener 20/08/04 - Y diwrnod cyn Sioe Llanrwst

Heddiw ydy'r diwrnod golchi. Mi fydda i'n trio golchi'r rhan fwyaf o'r adar er mwyn gadael iddyn nhw sychu a thrin eu plu ar 么l imi eu golchi a'u sychu efo'r sychwr gwallt.

Rydw i wedi cael y diwrnod i ffwrdd heddiw yn barod at y sioe fory.

I芒r Cochin wen cyn ei golchi10:00 - Dechrau ar y Cochin. Yr i芒r wen i mewn i'r bath yn gyntaf am fod y d诺r yn l芒n ac yn gynhesach. Rhaid i'r d诺r fod ychydig yn gynhesach i dr茂o cael y plu yn wynach neu'n lanach.

Ar 么l ei golchi efo d诺r gl芒n cynnes a rhoi shamp诺 a conditioner mae angen ei sychu. Rydw i'n rhoi tywel o amgylch yr i芒r ac yna'n dechrau sychu efo'r sychwr gwallt.

Mi fydda i'n sychu rownd ei phen hi yn gyntaf ac wedyn yn gweithio i lawr at y gynffon. Mae'n cymryd amser am fod y sychwr gwallt yn gorfod bod ar cool neu mi fydda i'n llosgi croen yr aderyn neu yn ei brifo.

Wedi gorffen sychu'r i芒r wen, rydw i'n dechrau ar y ceiliog du. Mae hwn yn dderyn blwydd oed a fi sydd wedi ei fagu. Mae ei lygaid yn berffaith a chrib a wyneb da arno fo hefyd. Yr unig beth sydd yn erbyn dangos aderyn mawr fel Cochin yn yr haf ydy fod hen blu yn troi'n frown ac yn sefyll allan yn erbyn y plu newydd sydd yn dw'llach, neu yn ddu.

Y ceiliog Cochin du (cyn ei olchi!)Mi rydw i'n meddwl fod golchi efo d诺r cynnes, shamp诺 a conditioner yn help i sychu'r plu'n well am eu bod nhw'n fflyffio i fyny yn well. Mae'r plu'n agor allan yn well, neu fel arall maen nhw'n mynd yn galed fel cardbord mewn mannau.

Ar 么l golchi a sychu, mi fydda i yn eu rhoi nhw yn rhywle lle fedran nhw ddim maeddu neu fydd yr holl waith wedi mynd i w芒st.

Am mai newydd ddechrau yn 么l ar gystadlu ydw i ac am fy mod yn byw mewn t欧 newydd, does gen i ddim lle i roi'r adar ar 么l eu golchi eto, felly mi fydda i'n eu cadw nhw yn y t欧 dros nos. Dyna pam y bydda i'n tr茂o eu golchi nhw mor agos i'r sioe 芒 phosib!

13:00 - Wedi gorffen y ddau fwyaf o'r diwedd. Mae gen i bedwar aderyn wedi eu entro yn y sioe ond mi wna i'r ddau arall bora fory cyn mynd. Wn芒n nhw ddim cymryd yn hir am eu bod nhw'n fach.

Dydd Sadwrn 21/08/04 - Diwrnod Sioe Llanrwst

I芒r bantam Lavender Pekin6:00 - Dechra eto ar yr ieir. Y bantam gyntaf, a dwi'n ei gwneud yn y sinc. Lavender Pekin ydy hon; rhywbeth yn debyg i'r Cochin ond chwarter ei seis. Wedyn rydw i'n golchi'r Cream Legbar. Deryn wedi ei chreu ydy hon er mwyn gallu dweud ei rhyw pan mae'n deor - sef Auto Sexing Breeds. Pan maen nhw'n deor mae gan yr ieir gylch bach melyn er eu pennau. Does gan y ceiliog 'run felly mae'n haws i bobl wybod beth mae'n nhw wedi ei gael ar 么l iddyn nhw ddeor. Mae hi'n dodwy wyau mawr glas.

Dim ond golchi coesau yr i芒r yma sydd eisiau a rownd ei phen a dim ond rhoi'r sychwr gwallt arni i chwythu'r llwch i ffwrdd.

7:30 - Wedi gorffen efo'r adar - r诺an fi sydd yn cael ei olchi yn barod at y sioe!

Tu mewn i babell y dofednod yn Sioe Llanrwst8.50 Cyrraedd y sioe a phedair aderyn wedi ei gwneud hi i'r cystadlu: Pekin i'r dosbarth Any True Bantam; Cream Legbar i'r dosbarth Any Other Variety, soft featherlight a dau Cochin i'r dosbarth Any Colour Cochin.

Ar 么l rhoi'r adar yn y sioe mi fydd y dent yn cau ac mi fydd yn rhaid chwysu am 'chydig i weld os oedd yr holl waith 'na wedi talu ei ffordd. Mi fyddai'n mynd rownd y sioe i weld beth sydd ar werth ac i weld pobl 'dwi wedi eu cyfarfod o sioeau eraill yn y gorffennol a gweld yr arddangosfeydd eraill.

12:00 - Mynd n么l i'r dent ieir i weld beth sydd wedi cael cerdyn. Cafodd y Cochin ail a trydydd - y ceiliog du yn cael ail a'r i芒r wen yn dwad yn drydydd. Mi ddoth y Lavender Pekin yn drydydd am fod ganddi hi'n dal ryw fis neu ddau i dyfu eto ond mi fydd hi'n berffaith erbyn y sioeau gaeaf ac yn y National yn Stoneleigh.

Cream Legbar Yn anffodus chafodd yr i芒r Leg ddim byd. Mae ganddi hi hefyd ychydig o dyfu i fynd tan y bydd yn ddigon mawr i roi cystadleuaeth i'r lleill. Am fod yr adar soft featherlight mor amrywiol a gwahanol a dim llawer o bobl yn eu cadw mae'n amhosib gwybod faint o adar a pha adar fydd yn eich erbyn chi ar y diwrnod. Ond, sioe nesa gobeithio!

Doedd hi ddim yn sioe rhy ddrwg. Mae angen mynd i gefnogi y sioeau bach. Dwi'n hoffi mynd dim ond i siarad efo'r cymeriadau eraill neu i wybod am adar sydd ar werth neu am rywun sydd eisiau eu prynu nhw.

Russell a'r rhosedi a enillodd yn LlanrwstSioe Llanrwst oedd y ddiwetha o'r sioeau lleol. Mae hi wedi bod yn flwyddyn gweddol ond mae'n rhaid paratoi o hyd am y sioeau sydd i ddwad a magu at y flwyddyn nesa.

Hwyl am y tro!

Ymlaen i fwy o hanes Russell.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy