 |
 |
 |
Gwyneth Glyn Beth sydd gan Gwyneth Glyn, yr 'alarch tawel a phluog' o Lanarmon i'w ddweud am ei cherddoriaeth a'i chaneuon sy'n dod iddi fel 'tylwyth teg yn y nos' ... |
 |
 |
 |
Aelodau
Fi!
O lle
Llanarmon, Eifionydd
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Yn 1979, ym mol fy mam!
Pam ddaru chi ffurfio band?
Pwysau i ddiddanu'n gerddorol rhwng darllen fy ngherddi mewn tafarndai.
Gig gwaetha
Tu Hwnt i'r Afon, gan fod Hefin Jones heb sortio'r PA a'r lle'n llawn hogiau rygbi uchel-eu-clychau!
Gig gorau
Y Galeri, Caernarfon - hefo Alun Tan Lan, Gwilym Morris a Rich Gorky's.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Meic Stevens, Alun T L, Gwilym Morris, Gorky's, Gillian Welch a Joni Mitchell.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Yn hwyr yn y nos, weithiau maen nhw'n dod imi fel y tylwyth teg!
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Eistedd yn 么l a mwynhau yr holl fandiau eraill sy'n dilyn.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Gram Parsons - os fyse fo'n cyfrannu'r sudd oren.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, ym mhob ffordd. Pan fyddwn i'n mynd am dro rownd Llangybi mi fyddwn yn canu i'r gwartheg a'r defaid!
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Alarch - tawel a phluog.
O lle ddaeth yr enw?
Mi ges i fy enwi ar 么l fy nain, mam fy nhad.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Gwladaidd, syml, teimladwy.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Castell Caernarfon.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Eistedd gefn-llwyfan yn pwyso'r papur 'ma ar Heat magazine, un Martin Geraint (dwi'n amau)!
 |
 |
 |
|

|
|