成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Drymbago Drymbago
Mae aelodau Drymbago yn dod o sawl gwlad ond sut daethon nhw at ei gilydd a beth ydy ystyr enw band? Luke Evans sy'n ateb ...
Aelodau
Gwilym Morus sy'n canu, Paul Guest ar y b芒s, Pete White ar allweddellau, fi (Luke Evans) ar git芒r, Luke Winters ar y drymiau a Pau, boi o Gatalonia, ar yr offerynnau taro.

O lle
Dwi'n dod yn wreiddiol o Dorset. Mi ddes i fyny i Fangor a chwrdd 芒 Gwilym a Pete.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua phum mlynedd yn 么l.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd gen i stiwdio ar un adeg ac mi wnes i, Gwilym a Pete gychwyn chwarae cerddoriaeth efo'n gilydd. Yna ddaru ni gyfarfod Luke ac roedd y pedwar ohonon ni yn fand ffync a soul am rai blynyddoedd cyn i fwy ymuno a chreu Drymbago.

Gig gwaetha
Parti pen-blwydd ffrind yn drideg mewn sgubor yn Nant Gwynant. Roedden ni efo ffrindiau ac i gyd wedi meddwi ychydig ac roedd popeth yn swnio'n wych!

Gig gorau
Callaghan's yn Nghaerdydd. Doedd o ddim yn lle da i gerddoriaeth fyw - 'doedd neb yn cymryd sylw, dim ond yn yfed. Weithiau rydych chi eisiau i bobl wrando neu beth ydy'r pwynt chwarae?

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n hoffi'r cerddor jazz/ffync o Ethiopia, Mulatu Astatqui. Ond rydyn ni i gyd yn hoffi mathau gwahanol o gerddoriaeth.

Roeddwn i a Pete yn DJio am gyfnod ac mi ddaru ni ddod ar draws lot o gerddoriaeth world dance roedden ni'n ei hoffi'n fawr.

Yna, mae'r Luke arall 'chydig yn fwy urban ac mae gan ein chwaraewr allweddellau glustiau arbennig sy'n golygu bod ganddo chwaeth gwych mewn cerddoriaeth.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Rydyn ni'n dod at ein gilydd mewn ymarferiadau ac mi fydd gan un syniad, wedyn mi fyddwn ni'n jamio efo'r syniad yna am 'chydig o oriau ac yn creu c芒n.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Cael peint neu ddau!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Jorge Louis Borges, awdur existentialist oedd yn byw yn yr Ariannin yn yr 1940s. Roedd ganddo syniadau diddorol iawn.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Yn sicr. Er nad ydy rhai aelodau o'r band yn siarad Cymraeg yn rhugl, mae geiriau ein caneuon yn y Gymraeg gan ein bod yn teimlo'n gryf am y sefyllfa hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr. 'Da ni'n ceisio dod 芒 phawb o dan yr un baner, dydyn ni ddim yn roc, jazz na ffync, ond yn bopeth, felly mi ddylen ni ddod 芒 phawb at ei gilydd.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Aardvark am mai hwnnw ydy'r anifail cyntaf yn y geiriadur!

O lle ddaeth yr enw?
Drymbago oedd enw drymiwr reggae yn yr 1970au oedd yn dod o Jamaica.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Amrwd, gwledig, egn茂ol.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Chwarel Garndolbenmaen gan ei fod yn lle arbennig.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Rydyn ni newydd orffen set ar lwyfan y Sesiwn Fawr a 'dwi am fynd i n么l cwrw arall gan fod yr un yma yn gynnes erbyn hyn!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy