 |
 |
 |
Chouchen Mae Huw Meredydd (ar y dde) eisiau cynnal gig anferth ar bier Bangor. Ond yn gyntaf, rhaid iddo ddweud wrthon ni beth ydi ystyr enw ei fand. |
 |
 |
 |
Aelodau
Fi (Huw), Erddin Llwyd, Ll?r Edwards, Seimon Pugh-Jones a Polos (Mark Pugh-Jones). Yn wreiddiol roedd Patrick Bechard o Lydaw yn chwarae'r bangos, Rhodri Gruff yn chwarae'r drymiau, Carwyn Fowler ar y delyn a Cerys Bowen yn chwarae'r ffliwt.
O lle
Mi ddaru ni i gyd gyfarfod yn y coleg yn Aberystwyth. Dwi'n dod o Fangor, mae Eddie o'r Bala a Ll?r o'r Bermo.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Yn 1996.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Ar gyfer Eisteddfod Rhyngolegol Abertawe yn 1996. Doedd yna ddim gr?p ymysg myfyrwyr Aber, ac ro'n in gallu chwaraer git芒r ac roedd gan Erddin git芒r b芒s - roedd o i gyd yn bach o laff. Ond ar 么l wythnos, ddaru ni gael cynnig gig yn Y C?ps efo Bob Delyn a'r Ebillion, a wedyn un arall efo Meic Stevens. Roedd o fel pelan eira - heb fod yn fwriadol o gwbl!
Gig gwaetha
Mewn neuadd yn ardal Aberystwyth mewn cinio eitha posh. Roedden ni'n chwarae heb unrhyw fath o system sain, dau ohonon ni ar un ochr i'r bwrdd p?l a'r ddau arall ar yr ochr arall! Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n dda iawn a ddim yn addas iawn i'r noson. Os dwi'n cofio'n iawn chawson ni ddim clap chwaith!
Gig gorau
Er ei bod hi wastad yn wych i chwarae mewn llefydd mawr fel Sesiwn Fawr Dolgellau a Maes B, dwi'n meddwl mai un o fy hoff gigs i oedd mewn tafarn bach yng ngorllewin Cymru. Nath y noson ddechrau yn eitha tawel a civilised, a wedyn wrth i'r noson fynd yn ei blaen aeth hi ychydig yn fwy swnllyd a bl锚r, ac erbyn tua tri o'r gloch y bore roedd pawb yn y dafarn yn chwarae rhyw offeryn. Un person yn taro'r drymiau, un arall ar y piano, rhywun ar y mandolin, ni'n chwarae git芒rs a phawb yn y lle yn canu! Noson eitha gwyllt!
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Grandaddy, sef gr?p o America, a'r Flaming Lips, Gomez, Meic Stevens, Jarman.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydd Erddin, Ll?r a finnau'n 'sgwennu'r caneuon fel arfer. Bydd un ohonon ni'n meddwl am syniad, wedyn yn jamio ac yn gwella ar y syniad yna.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Yfed chouchen.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Mr Urdd - arwr fy mhlentyndod!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Dwi'n meddwl bod Aberystwyth wedi bod yn ddylanwad mawr ar ein cerddoriaeth yn y dechrau - yn sicr pan oedden ni yn y coleg yna. Roedden ni'n teimlo bod y gr?p yn rhywbeth cymdeithasol iawn - ein bod ni'n gynnyrch o'r bywyd roedden ni'n ei fyw yn y coleg. Roedden ni'n canu am ein ffrindiau, y llefydd roedden ni'n mynd a'r pethau oedd yn digwydd yn Aberystwyth ac felly roedd hi'n hawdd iawn i ysgrifennu caneuon adeg hynny. Ar ben hynny, roedd y gefnogaeth gafon ni gan ein ffrindiau yn y coleg yn anhygoel - sdim ots lle oedden ni'n chwarae, roedd hi'n siwr o fod yn noson dda, a roedd hyn yn bwysig iawn i ni er mwyn cario ymlaen. Roedd yr amser a'r amodau yn berffaith ar gyfer ffurfio gr?p a chael cefnogaeth gryf.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cameleon - yn newid ei liw (neu'n newid ein henw yn ein achos ni o Ysbryd Chouchen i Chouchen)
O lle ddaeth yr enw?
Un o aelodau cyntaf y gr?p oedd Patrick Bechard, sy'n dod o Lydaw, ac yn chwarae'r drymiau Affricanaidd (jambe, bongos etc.). Roedd o yn y coleg yn Aberystwyth, a bob tro roedd o'n dychwelyd i Aberystwyth ar 么l bod yn Llydaw roedd o'n dod 芒 photeli o Chouchen draw gyda fo. Felly, dwi'n meddwl mai fo gafodd y syniad o alw'r gr?p ar 么l y diod - roedd o'n syniad da ar 么l yfed y botel!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Acwstic, trydanol, cymhleth!
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Dwi'n meddwl bydda fo'n eitha da i gael gig enfawr ar Pier Bangor! Lle anhygoel.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Meddwl am rhywbeth da i ddweud fel ateb. Ond yn methu.
 |
 |
 |
 |  |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
|  |
|

|
|