 |
 |
 |
Cabalatchio Yn 么l Simon Kalavusz, mae Blaenau'n lle boncyrs, yn union fel ei fand. Dewch i adnabod un o grwpiau newydd y s卯n roc a gyrhaeddodd rownd olaf Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru 2004. |
 |
 |
 |
Aelodau
Andrew Cockrell ar y git芒r, Karl Hall ar y b芒s, Orren O'Neil ar y dryms a fi'n canu (Simon).
O lle
Blaenau.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua Ionawr/Chwefror 2004.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Oherwydd y Gwallgofiad yn Blaenau - prosiect lle gall unrhyw un droi i fyny i ymarfer, felly ddaru ni benderfynu cymryd mantais a ffurfio band.
Gig gorau
G?yl Rhuthun - roedd o'n gr锚t o brofiad.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n licio Bob Marley, Anweledig, Blink-182 - lot o bobl. Mae Orren yn licio Slipknot a Karl yn licio miwsig clybio.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fi sy'n sgwennu. Fel arfer, daw'r geiriau'n gynta wedyn mi fydda i'n gwneud y miwsig i fynd efo nhw.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Christina Aguilera.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, gan fod y lle yn boncyrs - mae ein caneuon i gyd yn boncyrs hefyd!
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Ci - mae c?n yn nuts ac yn od!
O lle ddaeth yr enw?
Hogia Anweledig wnaeth roi'r enw i ni. Dwi'n meddwl ei fod o'n golygu rhywbeth braidd yn ddrwg ym Mangor!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Nuts, hwyliog, swnllyd.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Yn y Sesiwn Fawr - 'da ni eisiau chwarae fa'na nesa.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar y ffordd i'r gwaith. Dwi newydd adael ysgol a dwi'n gweithio fel sgaffaldiwr.
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
听
|
 |
 |
 |
Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
 |
 |
 |

|