 |
 |
 |
Annioddefol Y llewod ffynci sydd eisiau achub yr ysbyty lleol - dewch i adnabod band mwyaf Annioddefol y Blaenau. |
 |
 |
 |
Aelodau
Paul Cockerill - dryms, Llio Maddocks - llais, Ceri Murray - rhythm git芒r, Gareth Ellis - git芒r flaen, Daniel Davies - b芒s.
O lle
Blaenau Ffestiniog
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Rhywbryd yn 2004.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Oherwydd doedd dim llawer i'w wneud o amgylch Blaenau felly mi ddaru prosiect y Gwallgofiaid ddechrau a ddaru ni ymuno 芒 hwnna.
Gig gwaetha
Pafiliwn Llangollen yn Brwydr y Bandiau pan gollodd Llio ei llais. Dim bwys. plenty other tries yn de.
Gig gorau
Dwi'm yn si诺r iawn.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mae aelodau'r band yn licio gwahanol fathau o artistiaid. Mae Gareth i fewn i roc caled ac mae Daniel i fewn i'r un math o beth. Mi rydw i yn licio stwff fel Kaiser Chiefs a Franz Ferdinand.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mae un aelod yn ysgrifennu lyrics ac mae'r band yn ysgrifennu tiwn i fynd efo nhw.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Ar y funud rydym yn gwrando ar y bandiau eraill sydd yn chwarae ar ein h么l ni.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Yn bersonol mi fuaswn yn hoffi rhannu cornflakes gyda Bob Marley oherwydd mae o yn legend.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Na, ddim rili oherwydd rydym yn ysgrifennu miwsig rydyn ni'n hoffi gwrando arno.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Llew, oherwydd llew ydy'r king of the jungle.
O lle ddaeth yr enw?
Mae yna fandiau o gwmpas fel Anweledig, Anhysbys ac Anhygoel, ac mi roedden ni eisiau cario ymlaen gyda'r 'AN'- felly Annioddefol yda' ni.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Reggae, Soft a Ffynci.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ar ben Co-op yn y stryd fawr mewn protest gig i beidio cau yr ysbyty lleol.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Bwyta!
 |
 |
 |
 |  |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
|  |
|
 |
 |
 |
听
|
 |
 |
 |
Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
 |
 |
 |

|