成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Anad Anad
Dyfan Dwyfor sy'n datgelu ei hoffter o Jennifer Lopez, cathod sgitsoffrenig ac ysgytlaeth siocled wrth ateb ein holiadur.
Aelodau
Dwi'n chwarae'r dryms (Dyfan), mae Tristan Williams yn canu, David Jenkins yn chwarae'r git芒r flaen ac Andrew McKenzy ar y b芒s.

O lle
Cricieth.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua pum mlynedd yn 么l.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Achos ein bod ni wedi diflasu! Roedd pawb yn gallu chwarae ryw offeryn ac felly mi ddaru ni benderfynu ffurfio band. Er ein bod ni i gyd yn yr un flwyddyn yn yr ysgol, doedden ni ddim yn ffrindiau agos iawn cyn cychwyn y band.

Gig gwaetha
Mi ddaru ni chwarae un gig yn Edern, yng ngwesty'r Woodlands. Mi stopiodd amp David 芒 gweithio a do'n i ddim yn gallu clywed dim o'r gerddoriaeth ac felly roedd fy nrymio braidd yn ofnadwy!

Gig gorau
Sesiwn Fawr 2002. Mi wnaeth hi ddechrau bwrw, felly mi ddaeth pawb i mewn i'r babell i wrando arnon ni!

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mae pawb yn y band yn hoffi Muse, a hen bethau fel y Beatles. Mae David a finnau'n hoffi roc ac mae Andrew yn hoffi pync.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fel arfer, mae David yn dod i fyny efo rywbeth pan fyddwn ni i gyd efo'n gilydd. Mae pawb yn cyfrannu rywbeth, a Tristan sy'n sgwennu'r geiriau.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Yfed mae'n siwr! Yn aml iawn, fi sy'n gyrru'r fan felly mi fydd pawb wedi meddwi, a fi'n sobor! Dydy o ddim yn deg iawn.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Jennifer Lopez.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Na, dim felly. Dwin si?r ei bod hi'n haws cychwyn band yn rhywle arall. Does dim llawer o lefydd yn cynnal gigs fan hyn - mae'n rhaid teithio'n gyson i gigio.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cath sgitsoffrenig! Weithiau rydan ni'n ddistaw, ond pan fyddwn ni'n deffro, rydan ni'n reit swnllyd!

O lle ddaeth yr enw?
Dydw i ddim yn si?r pwy wnaeth feddwl amdano!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Egn茂ol, cyffrous, gwerth gwrando arno. Wps, mwy na thri gair!

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Da ni'n ymarfer mewn ystafell uwch ben garej fy rhieni, felly mi fase hi'n dda agor y drysau a gwahodd pawb ar y stryd i wrando arnon ni!

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Yfed milkshake siocled o Cadwaladers!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy