 |
 |
 |
Alun Tan Lan Mae'r perfformiwr amryddawn Alun Evans - sy'n chwarae'r git芒r, banjo, mandolin a'r bazouki - ar ei ffordd i'r Unol Daleithiau i berfformio yn Austin, Texas, pan rydyn ni'n cael gafael arno. Mae'n fwy adnabyddus fel Alun Tan Lan ... |
 |
 |
 |
Aelodau
Fi
O lle
Pandy Tudur
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
2004
Pam ddaru chi ffurfio band?
Dim syniad. Pam lai? Roedd yn teimlo fel y peth iawn i'w wneud. Ro'n i wedi bod mewn deg o fandiau cyn hynny - Serein yn un ohonyn nhw.
Gig gwaetha
Llwyth - fedra i ddim dewis un.
Gig gorau
Mi ro'n i ar Daith Gruff Rhys yn ddiweddar - Harlech dwi'n meddwl oedd y gorau.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Meic Stevens, Y Cyrff, Van Morrison, John Prine, The Byrds.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Does dim fformiwla, maen nhw jyst yn dod allan bob ffordd.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mynd adra'.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Dwi ddim yn licio cornflakes.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Yndi, ond dwi ddim yn gallu dweud ym mha ffordd.
O lle ddaeth yr enw?
Tan Lan ydi'r lle dwi'n dod ohono.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Fedra i ddim.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Llanrwst.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Dim llawar o ddim byd!
 |
 |
 |
|

|
|