Mae Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi ac mae'r enillydd yn cael gwobr o 拢5,000. Mae'r nofel fuddugol - Un Dydd yn yr Eisteddfod - wedi ei hysgogi gan Eisteddfod Meifod 2003 ac mae'n adrodd hanes cymeriad o'r enw Wil Chips ar ddydd Gwener olaf yr eisteddfod. Daw Robin Llywelyn yn wreiddiol o Lanfrothen ac mae'n byw ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth. Fo ydy Rheolwr Gyfarwyddwr pentref Eidalaidd Portmeirion - y pentref a adeiladwyd gan ei daid, Clough Williams-Ellis. Canllaw Lleol i'r 诺yl yn y De Ddwyrain.
 |