成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mei a Fflos o'r Sibrydion Barn y bandiau
Er gwaethaf y mwd, roedd g诺yl Wakestock 2009 yn un llwyddiannus i fandiau'r ardal. Dyma sylwadau rhai wrth iddynt dreulio amser tu cefn i'r llwyfan.

Roedd y Sibrydion yn awyddus i chwarae caneuon o'u CD newydd ar Sadwrn yr 诺yl.

"Rydym wedi gwneud albwm Saesneg ac mae o wedi gwerthu allan ar 么l arolwg da yn y Times," meddai Fflos o'r band. "Yr un broses yw recordio yn y Saesneg, er mae'r gigs lawr yn Llundain ychydig yn wahanol."

Ond ddim mor wahanol a chwarae mewn g诺yl yn Ffrainc. "Ddaru ni chwarae yng ng诺yl Geltaidd L'Orient a doedd y gynulleidfa ddim yn siarad o gwbwl yn ystod ein perfformiad. Fa'na, maen nhw'n gwrando ar bopeth ac os maen nhw'n hoffi o, maen nhw'n rili hoffi o; ac os ddim maen nhw'n gadael i chi wybod!

"Maen nhw'n gwrando ar gerddoriaeth fyw yn rheolaidd, nid fel yma; mynd allan, cael diod gyda band yn y cornel."

Ond mae bod yn n么l mewn 诺yl yng Nghymru yn dda. "Mae'n gr锚t cael bandiau Cymreig 'mlaen," meddai Fflos. "Yn enwedig mewn ardal reit Gymreigaidd - byse fo ddim yn iawn peidio 芒'u cael nhw."

Roedd Yr Ods - band o ochrau Bangor, Llanberis a Llanystumdwy - newydd chwarae g诺yl enfawr Glastonbury cyn Wakestock.

"Roedd o'n hollol briliant," meddai Griff Lynch, canwr y band. " Roeddem ar lwyfan cylchgrawn Q efo dorf o ryw chwe chant - mae'r lle yn anhygoel o fawr."

Cowbois Rhos Botwnnog Efallai'r band mwyaf lleol i chwarae yn Wakestock oedd Cowbois Rhos Botwnnog. Wrth i rai bandiau eistedd mewn fan am saith awr i gyrraedd y maes, 'mond siwrne deng munud oedd gan fois Pen Llyn. "Da ni'n gwybod y short cut yma," meddai Aled Huws o'r band. "Mae 'na lon cul sy'n dod lawr at safle'r bandiau, gan osgoi'r holl draffig!"

Roedd cael chware prif lwyfan yr 诺yl yn dra wahanol i'r noson gynt. "Mi aeth o'n gr锚t heddiw; dipyn o naid o chwarae mewn sgubor ym Machynlleth neithiwr!" meddai Aled.

"Mae'n wych, ar 么l chwarae gigs mewn tafarndai a gorfod symud popeth ein hunain, i gael roadies sy'n gwneud popeth i chi."

Mae Aled yn disgrifio miwsig y band, sydd wedi bod efo'i gilydd ers 2006, fel 'roc a r么l efo dylanwad canu gwlad fodern". Cynt, roedd dau aelod o'r band - Aled a'i frawd Dafydd - wedi ffurfio gr诺p Eryr, cyn i'w frawd arall, Iwan, dechrau sgwennu caneuon. "Ddaru ni sylweddoli fod o lot gwell na'r ddau ohonom ni'n sgwennu, felly ni sy'n canu stwff fo r诺an," meddai Aled.

Ddaru pedwerydd aelod y gr诺p, Ll欧r, dim ond chwarae ei gig gyntaf gyda'r Cowbois y noson cyn Wakestock. "Ddaru o ddysgu'r set heb lawer o bractis - bach o 'baptism of fire'", meddai Aled.

Er hynny, roedd yna ddigon yn dawnsio yn y mwd ar y dydd Sul yn mwynhau eu cerddoriaeth.

Dafydd o'r Promatics A beth am Y Promatics, y band a lwyddodd ennill cystadleuaeth i berfformio ar lwyfan y DJ Huw Stephens ar Sul yr 诺yl?

"Roedd o'n wych," meddai Dafydd Foxhall, drymiwr y band. "Roedd cael sustem sain arbennig o dda yn gr锚t, ac mi gawsom ni groeso gwych gan y dorf. Gig anhygoel i ni."

Ddaru'r band gwneud y gorau o'r tywydd a'r slot y cawsant i berfformio. "Roedd y tywydd wedi gwella erbyn y Sul ac felly roedd pawb efo mwy o wen ar eu hwynebau! Hefyd, nid oedd dim ar y prif lwyfan na'r babell fawr goch pan ddaru ni gychwyn, felly ddaru lot o bobl ddod draw atom ni - Cymry a rhai Di-Gymraeg - am ddawns yn y mwd!"

Rhagor o Wakestock.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy