成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tu cefn i'r llwyfan gyda Gruff Rhys
Wrth iddi dresio bwrw yng Ng诺yl Wakestock 2009, ddaru ni dal fyny efo Gruff Rhys o'r Super Furries yn ei gaban tu cefn i'r llwyfan.

"Dwi ddim yn si诺r beth yw wakeboard," meddai Gruff. "Ond dwi'n si诺r byse fo'n dod yn handi i groesi'r cae yma, efo'r holl fwd!"

Gan nad oedd yr haul allan, roedd y Super Furries am blesio'r dorf gyda rhai o'i ganeuon mwyaf enwog. "Da ni wedi chwarae'r CD newydd (Dark Days/Light Years) yn fyw, ond gan ein bod mewn g诺yl efo hanner can munud i chwarae set, rydym am chwarae lot o hen ganeuon. Ella 'sa'n braf, byse set o ganeuon newydd yn iawn ond mae pawb yn edrych mor flin, 'sa'n well gwneud yr hen rhai!"

Bydd rhaid aros i gig Super Furries i glywed Cian yn canu ei g芒n o'r albwm yma felly - efallai pan ddaw'r band i Fangor yn yr Hydref. "Mae pawb yn y band yn canu ar y CDs, heblaw am Guto sy' wedi penderfynu canolbwyntio ar y bas." Dywedodd Gruff.

Clawr CD Dark Days/Light Years Sut record yw'r albwm newydd felly? "Da ni'n trio mynd i bob cyfeiriad yr un pryd wrth wneud y CD newydd," dywedodd. "Maen nhw'n ganeuon sy' 'di cael eu datblygu o gwmpas l诺piau a phatrymau o sain sy'n ail-adrodd. Mae 'na dal penillion a chytgan fel mewn can confensiynol ond da ni ddim wedi sgwennu nhw ar git芒r mewn llofft efo lot o gordiau a ballu tro yma.

"Roedd Hey Venus llawn ganeuon oedd wedi cael eu sgwennu'n fanwl ac yn ofalus ar un offeryn ar y tro ac wedyn yn cael eu datblygu gan y gr诺p i gyd, ond mae'r caneuon newydd wedi dod allan o jamio a chreu synau sy'n ail adrodd ar gyfrifiaduron."

Mae aelodau o'r band wedi bod yn brysur gyda phrosiectau eraill dros y misoedd diwethaf, gyda Gruff yn cael ei enwebu am wobr Mercury gyda Neon Neon.

"Da ni'n dysgu lot wrth weithio ar brosiectau eraill," meddai Gruff. "Mae'n hawdd dod i arfer efo beth mae pawb yn y gr诺p yn mwynhau. Felly, os 'da ni'n meddwl nad yw can newydd am fynd 'lawr yn dda efo'r gr诺p, mi wnawn ni drio fo allan efo'r prosiectau gwahanol."

Gydag un c芒n Cymreig ar Dark Days/Light Years, a yw'r band am recordio mwy yn yr hen iaith? "Yn bendant 'da ni'n meddwl gwneud mwy o recordio yn Gymraeg. Mae'n rhyfeddol ein bod wedi gwneud gymaint o rhai Saesneg - dwi ddim yn si诺r pam, maen nhw jest wedi dod allan fel 'na.

"Rydym hefyd wedi cael ein harwyddo gan labeli Eingl-Americanaidd ac wedi mwynhau sgwennu'n Saesneg iddynt," meddai Gruff.

A yw sgwennu yn y Gymraeg yn wahanol o gwbwl? "Mae ein caneuon yn Gymraeg yn fwy gwreiddiol" dywedodd. "Mae yna lai o ystrydebau yn roc a r么l yn y Gymraeg. Mae 'na gymaint wedi cael eu sgwennu yn Saesneg, ti'n aml yn ail-adrodd pethau ti wedi clywed pobl eraill yn ei wneud heb sylweddoli."

Y mud yn Wakestock Roedd Gruff a'i fand yn hapus i fod yn 么l yn chwarae'r gwyliau blynyddol ar 么l bach o seibiant, er nid ydynt yn bwriadu mynd i ffwrdd yn chwarae am wythnosau ar y tro. "Da ni am fynd i Efrog Newydd, ond da ni'n trio peidio teithio am gyfnodau hir. Mae'n braf ar y funud - mynd i'r 诺yliau, mwynhau ac wedyn mynd adref," meddai.

Er hynny, nid yw Gruff yn si诺r fod cael cymaint o wyliau ledled y byd yn beth da. "Maen nhw'n cychwyn yn yr hemisffer deheuol pan fo'n gaeaf fa'ma, felly byse'n bosib mynd i 诺yliau'n ddiddiwedd! Maen nhw'n ffenominwm eithaf rhyfeddol ar y funud a dwi ddim yn si诺r beth dwi'n meddwl am gymaint ohonynt."

Mae Gruff hefyd wedi sylweddoli dros y blynyddoedd nad yw bod tu cefn i'r llwyfan mor hudol ac y mae rhai yn credu. "Rhaid cerdded trwy bwll o fwd i gaban eithaf meddygol yr olwg," meddai. "Mae 'na fwd ar y llawr, er bod yna blanhigyn bach yn y cornel.

"Mae gennym ni hefyd sawl can o ddiod, creision, dau oren, afal, banana a phaced o gwm cnoi! Dyna yw tu cefn y llwyfan i ni!"

Er hynny, mae Gruff yn honni nid yw'r Super Furries yn fand sy'n gofyn am 'rider' mawr cyn gig. "Da ni ddim yn gofyn am forwyn i ddod a diodydd i ni na phowlenni o flodau!" meddai.

Rhagor o Wakestock
Rhagor o Wakestock.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy