成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goroesi'r Sesiwn Fawr

Lee a Gareth o'r tim DiogelwchBeth am y gerddoriaeth?

Ted o Gwm y Glo: Os ydych yn hoff o gerddoriaeth, mae'r artistiaid yma yn wych. Nid oes yna 诺yl mor dda 芒'r Sesiwn. Mae'r miwsig o ledled y byd gwir yn atyniad, yn ogystal 芒'r bandiau lleol rydym yn ei hadnabod gan eu bod yn chwarae yn ein tafarn ni!

Mae tocyn ar gyfer dydd Sadwrn gwerth yr arian mwy na'r nos Wener efallai gan fod yna gymaint o ddewis ar y llwyfannau, yn y theatr a Th欧 Siamas.

Gareth o Aberystwyth - ar y t卯m diogelwch: Dwi rili wedi mwynhau'r miwsig gwahanol. Dwi wedi dysgu am bobl nad oeddwn yn gwybod am o'r blaen, ac am fynd adref i lawr-lwytho eu cerddoriaeth!

Gethin o fand y Genod Droog: Dwi wedi bod yn lwcus i chwarae ar y llwyfan Cyfle a'r ddau lwyfan mawr. Mae llwyfan Cyfle yn werth mynd i'w weld - mae'r cwrw yn rhatach yn y clwb rygbi ac mae'n cymryd lot llai o bobl i greu awyrgylch da. Mae yna buzz yna efo jest cant o bobl, ac mae'r bandiau newydd yn gr锚t!

Dilwyn o'r Genod Droog: Mae yna ddigon o le yng Nghymru am lot o wyliau, sy'n beth da - 'da ni ddim eisio'r un bandiau yn troi fyny ym mhob un. Mae'r Sesiwn yn gr锚t - llawn o gerddoriaeth draddodiadol, canol y ffordd, miwsig o dros y byd a Chymreig.

Beth am y bwyd?

John, Sue, Sally a Ted yn NolgellauSue: Cymerwch frecwast da yng nghaffi'r Sosban a mi fyddwch yn iawn am y diwrnod!

Elin: Dwi'n hoff iawn o gael profi bwyd tramor yma, a byrgar cig eidion canol nos!


Unrhyw bethau wedi mynd o'i le yn ystod y Sesiwn?

Sally: Ddaru fy merch brifo ei ff锚r yn wael unwaith, ond roedd y trefnwyr a'r bobl yn y babell cymorth cyntaf yn ffantastig. Mi gawsom ni rhywle i barcio reit wrth y maes a ddaru Archie o'r maes pebyll rhoi ffon cerdded iddi!

Ddaru fy merch joio'r sylw wrth i bob aelod o'r Derwyddon Dr Gonzo mynd a hi i'r St John's!

Esyllt: Lot fawr, ond glaw llynedd oedd y gwaethaf! Roedd o'n fwd i gyd, yn enwedig y tu 么l i'r llwyfan lle da ni ar y glaswellt. Nid oedd yn bosib mynd trwy ddrws y babell bwyd a diod nes i ni roi gwair i lawr! Y gwirfoddolwyr a'r artistiaid sy'n cael hi'n waethaf yn y glaw!

Elin: Mi ges i babell wlyb, socian yn 2006 ar 么l i'r drws agor rhywbryd yn ystod y dydd!

Lle i gysgu a goroesi'r glaw...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy