Y prif reswm dros geisio adfywio Pesda Roc yw pan ddaru ni gyd ddod 'n么l am wyliau'r Nadolig, ddaru ni sylweddoli nad oedd yna lawer o gigs yn mynd ymlaen ym Methesda. Hyd yn oed wrth gymharu efo tref fel Aberystwyth, heb s么n am Gaerdydd neu Llundain, does 'na ddim llawer yn digwydd yma.
Felly ddaru griw ohonom oedd yn ffrindiau ers ysgol penderfynu wneud rhywbeth am y sefyllfa.
Rydym eisiau rhoi rhywbeth i bobl ifanc wneud yma. Roedd 'na llawer mwy yn mynd ymlaen ym Mangor a'r ardal jest rhyw pum mlynedd yn 么l. Dwi'n cofio mynd i weld Euros Childs yn chwarae gan fod Bangor ar y gylchdaith gigs, ond mae o fel bod o ddim yn y l诺p mwyach.
Dwi ddim yn cofio Pesda Roc yr 80au, ond mi es i'r un wych gyda'r Super Furries a Cerys Matthews. Mi wnes i joio, ac felly cofio nad yw'n amhosib gwneud y fath beth.
Ond y prif fwriad am flwyddyn yma yw trefnu gigiau llai gyda'r haf, a phan ddaw pawb yn 么l am Nadolig. Rydym am i Pesda Roc dyfu'n raddol. Roedd gig 2006 yn wych, ond roedd mor fawr, roedd yn anodd iawn topio fo. Mae'n haws gwella'n raddol pob blwyddyn.
Mae'n handi bod un o'r criw mewn band; Si么n o'r Wyrligigs, ac felly mae o'n adnabod pobl mewn bandiau eraill sydd am chwarae.
Nid oes gen i brofiad o drefnu gigiau, ond ddaru criw ohonom hel arian tuag at drip i Batagonia yn 2007. Roedd rhaid i ni drefnu cyngherddau, gwadd cwmni theatr draw, hysbysebu'r digwyddiadau a gwerthu'r tocynnau.
Y gigiau cyntaf yw un yn nhafarn Llangollen, Bethesda, ar 24 Gorffennaf gyda Mr Huw a Jen Jeniro, ac un ar 15 Awst yn y Clwb Rygbi gyda'r Wyrligigs, Bob, Cowbois Rhos Botwnnog a'r Sibrydion.
Dwi ddim yn gwybod sut byse criw sy'n byw dros y wlad wedi trefnu hyn deng mlynedd yn 么l. Byse'n amhosib heb facebook a ffonau symudol!
Megan Jones
|