成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhos
Arwel Jones Croeso'r Cadeirydd
Cynhaliwyd G诺yl Gerdd Dant 2006 yn Y Stiwt, Rhosllanerchrugog ar ddydd Sadwrn, 11 Tachwedd.
Cyn y digwyddiad, bu Arwel Jones Cadeirydd y Pwyllgor lleol yn s么n sut y daeth Y Rhos i gynnal yr 糯yl eleni.

"Dewi Jones, Llangwm yw trefnydd cenedlaethol yr 诺yl ac rwyf wedi ei adnabod ers blynyddoedd. Mae Dewi yn dragwyddol yn chwilio am leoliadau ar gyfer yr 诺yl ac fe gysylltodd gyda fy merch Llinos, sydd yn delynores Bro Maelor, rhyw ddeunaw mis yn 么l.

"Does dim cefndir Cerdd Dant yn Y Rhos, gydag ond rhyw ddau neu dri theulu lleol erioed wedi ymddiddori.

"Ond fe wnaethom ni dderbyn y gwahoddiad ac roeddem yn awyddus gwneud sbloets fawr gan ddechrau gyda'r Cywydd Croeso a'r Cyngerdd Croeso.

"Yn ystod yr wythnos cyn yr 诺yl cynhelir sawl digwyddiad gyda Thalwrn y Beirdd ar y nos Fercher ac ar y nos Wener mae Dawns Werin fawr yn y Wynnstay yn Rhiwabon.

"Wnes i wahodd pob Ysgol Gymraeg yn y cylch - saith o ysgolion i gyd - i gymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol.

"Ac ers hynny maent wedi bod yn frwdfrydig iawn. Doedden nhw erioed wedi cystadlu o'r blaen yn yr 糯yl Gerdd Dant, ond maent i gyd wedi derbyn hyfforddiant gan bobl fel Aled Lloyd Davies a Mair Carrington sydd wedi bod yn ymweld 芒'r ysgolion.

"Rydym wedi syfrdanu bod cymaint o ddiddordeb ac felly roeddwn yn teimlo bod rhaid cynnal Cymanfa Ganu yn y Stiwt. Cymanfa Ganu'r Plant

"'Dwi'n adnabod Owain Arwel Hughes yn bersonol ac fe ofynnais iddo arwain y Gymanfa, gyda thorf gwerth chweil yn bresennol.

"Cefais y syniad hefyd o Gymanfa Blant a bu 400 o blant o bob cwr o Wrecsam yn y Stiwt gan greu s诺n mawr yno.

"Bu Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio'r ddwy gymanfa a bydd dwy raglen yn cael eu darlledu ym mis Tachwedd a mis Ionawr.

"Mae'r 糯yl ar gyfer Rhosllanerchugog a'r Cylch ond mae'n bwysig bod Sir Wrecsam o un pen i'r llall yn elwa, ac rydym wedi cael swm sylweddol o arian gan Gyngor Wrecsam

"Rydym yn disgwyl dwy neu dair mil o bobl i ymweld 芒'r Rhos.

"Mae'r ceisiadau wedi dod o bobman ac yn 么l Dewi mae wedi derbyn mwy o geisiadau nag erioed."

"Mewn un gystadleuaeth roedd 35 wedi rhoi eu henwau ymlaen yn barod. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr 诺yl.

"Rydym yn mynd i gael ffrwydriaid o Gymraeg ac rwyf eisiau i'r 诺yl adael rhyw fath o farc yn yr ardal hon."

  • Holl ganlyniadau'r dydd

  • Tlysau'r enillwyr - Lampau'r Glowyr

  • Cyfrannwch

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Hanes
    Radio Cymru
    Trefi


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy