Cyn i'r Eisteddfod gymryd lle bydd aelodau yn cystadlu mewn rowndiau rhanbarthol er mwyn ceisio ennill lle yn Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru.
Unwaith eto, mae'r Eisteddfod yn argoeli fod yn wledd o ddiwylliant Cymraeg ac adloniant. o ensemblau lleisiol i ddeuawdau doniol fe fydd rhywbeth at ddant pawb.
Noddwyr y gadair eleni yw Cangen Meirionnydd o'r FUW, a chaiff ei saern茂o gan Ieuan Edwards, aelod o CFfI Dinas Mawddwy.
"Gyda gweithgareddau'n cychwyn am 11 o'r gloch y bore, bydd yr Eisteddfod yn parhau tan oriau man bore dydd Sul, a phob math o gystadlaethau i ddiddanu'r dorf, o'r ystod draddodiadol i'r rhai newydd, modern ac ysgafn," meddai Geraint Rowlands, Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod CFfI Cymru
"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu aelodau a chefnogwyr ar draws Gymru gyfan i'r Eisteddfod, ac i'r rhai ohonoch sydd fethu mynychu gwrandawch ar y cyffro ar 成人快手 Radio Cymru o 8pm ymlaen.
"Mae 'na ddeuddeg o siroedd yn Ffermwyr Ifanc Cymru ac mae wyth ohonynt yn cystadlu yn gyson yn yr Eisteddfod.
"Mae 'na amrywiaeth o gystadleuaethau fel yr adran lefaru, adran gerddoriaeth, yr adran ysgafn yn ogystal a'r seremoni gadeiriol.
Dywed Geraint fod naws wahanol i'r Eisteddfod hon o'i gymharu gydag Eisteddfodau eraill.
"Mae 'na elfen o hwyl yn perthyn i'r Eisteddfod, gyda'r aelodau ddim fel arfer yn cymryd rhan mewn Eisteddfodau," meddai.
"Ond mae cystadlu ar ran eu clwb neu sir yn hwb bach iddynt ac yn annog aelodau fyddai byth yn dod i 'Steddfod fel arfer.
"Ar 么l dwy flynedd o drefnu, bydd hi'n braf yn awr cael gweld ffrwyth ein llafur."
|