成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gr诺p astudiaeth Beiblaidd - Hawlfraint Archif Wrecsam Ffydd a Moesoldeb
Yn eu hadroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru yn 1847, disgrifiwyd cymunedau Rhosymedre a Rhosllannerchrugog gan y Comisiynwyr fel y rhai mwyaf anfoesol ac anllythrennog yng ngogledd Cymru.

Serch hynny, roedd 1,595 o blant plwyf lleol Rhiwabon yn mynychu ysgol Sul oedd yn gysylltiedig 芒 chapel neu eglwys yn yr ardal.

Gwelodd yr Anghydffurfwyr yr adroddiad fel her ac aethpwyd ati i godi mwy o gapeli ac i fod yn fwy gweithgar yn y gymuned.

Erbyn 1900 roedd mwy nag ugain o gapeli ac eglwysi yn perthyn i o leiaf bump o wahanol enwadau yng nghyffiniau Rhosllannerchrugog.

Roedd cefnogaeth gref i'r Mudiad Dirwestol yn y capeli. Roedd y mudiad yn condemnio alcohol ac yn defnyddio digwyddiadau cymdeithasol i argyhoeddi pobl y dylent gymryd 'y llw'.

Fe agorwyd ystafelloedd coco yn Wrecsam ac Owrtyn er mwyn cynnig mannau cyfarfod amgenach na'r tafarnau i bobl.

Yn aml, byddai athrawon y cylch yn cwyno am fod plant yn cael eu temtio i golli'r ysgol er mwyn iddynt fedru mynychu'r gorymdeithiau a'r part茂on te oedd yn cael eu trefnu gan y Gobeithlu a'r Rechabitiaid.

Fodd bynnag, er bod y mudiadau dirwestol yn weithgar, roedd terfynau ar eu heffeithiolrwydd. Cwrw oedd yn torri syched gweithwyr y fro, sef y gweithwyr dur oedd yn dioddef gwres llethol y ffwrneisi a'r glowyr ar eu ffordd adref o'r pyllau.

Roedd gan Wrecsam fwy na 70 o dafarnau, amryw o siopau gwirodydd a nifer fawr o fragdai a gweithwyr bragdy oedd yn awyddus i ddiogelu eu bywoliaeth.

  • Cynnydd



  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy