"Yn gyntaf roeddwn yn aelod o'r Lodge ac yn 1972 daethum yn gadeirydd y ganegn - swydd bu'm ynddi am dros ugain mlynedd.
"Roedd y Parlwr Du erioed yn cael ei chydnabod fel y 'Pwll Hapus.'
"Roedd y berthynas rhwng yr undeb a'r rheolwyr ar y cyfan yn dda iawn.
"Roedd streic 1984 yn gyfnod anodd. Roedd gan bawb ei farn.
"Ond hyd yn oed pan oedd y streic drosodd, fe aetho' ni yn 么l i'r gwaith. Roedd y berthynas yr un fath.
"Roedd un neu ddau oedd yn methu setlo yn 么l ac fe wnaetho nhw adael y Parlwr Du.
"16 oed oeddwn pan es i dan ddaear yn gyntaf. Doedda' chi ddim yn cael mynd dan ddaear tan yr oeddech yn 16 oed.
"Roedd rhaid mynd i weithio yno oherwydd amgylchiadau. Roedd National Service yn bodoli a doedd mam ddim yn hoffi'r syniad o mi'n mynd i'r fyddin.
"Yn ogystal roedd fy nhad a sawl ewythr wedi bod yn gweithio yno.
"Yr adeg honno - y pumdegau cynnar - roedde ni i gyd yn byw o dan amgylchiadau tebyg.
"Bryd hynny roedd hi'n bwll Cymraeg. Dyna lle dysgais y rhan fwyaf o fy Nghymraeg.
"Er bod Mam a Dad yn Gymraeg, nid oeddynt yn siarad yr iaith adref.
"Roedd yn rhaid i fi ei ddefnyddio yn y Parlwr Du oherwydd dan ddaear roedde chi'n gweithio gyda rhywun o'r un pentref.
"Bydde chi'n siarad gyda'r merlod yn Saesneg - a bydde nhw'n troi ei pennau 芒 cystal dweud -dim yn dallt!"
"Felly roedd rhaid i chi ddysgu Cymraeg gan na fyddai'r hen lowyr yn fodlon siarad Saesneg gyda chi.
"Roedd llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd siarad Saesneg.
"Pe byddwn yn cael cyfle eto a pe byddai'r pwll yn agored, byddwn yn mynd yn 么l yno 'fory."
|