"Roeddwn yn 26 pan es i lawr. Roeddwn yn gweithio ar fferm cyn hynny cyn priodi merch i golier.
"Es i lawr am y tro cyntaf ar 么l bod yng Ngresffordd am bythefnos yn cael hyfforddiant. Bu'm yn gweithio yn y Parlwr Du am bron i 32 mlynedd.
Atgofion Bob - Rhan Un
Atgofion Bob - Rhan Dau
Atgofion Bob - Rhan Tri
Atgofion Bob - Rhan Pedwar
"Roedd mynd lawr Gresffordd y diwrnod cyntaf, doeddwn erioed wedi bod yn ymyl pwll glo heb s么n am fod i lawr.
"Roedd 'na hogiau' ifanc yno oedd wedi bod lawr o fy mlaen i.
Hywel a Nia yn holi Bob Griffiths ar Radio Cymru
"Ar 么l mynd i lawr roeddwn yn iawn. Ches i ddim ofn o gwbl.
"Roedd gynno chi ofn si诺r iawn, ond roedda chi'n dygymod gyda hynny'n sydyn iawn.
"Pan oeda chi'n fireman roedd 'na' ddigon o bethau eraill i feddwl amdan er eich bod yn gweithio mewn llefydd drwg.
"Gwnes i bob math o swyddi ar y dechrau. Ar 么l deg mlynedd o wneud popeth, es i'n swyddog fireman.
"Roeddwn yn fireman am 21 mlynedd yn tanio'r glo. Roeddwn yn gyfrifol am y diogelwch. Roedd dau ohonom yn tanio rhyw gant o dyllau ac wedyn roedd y glo yn barod. Dydd a nos roedda' ni'n gweithio yn tanio.
"Wedyn fe es ar salvage' pan oedd y wyneb wedi gorffen yn gweithio hefo contractors.
"Roedda chi'n mynd lawr am chwech o'r gloch ac yn 么l i fynnu am chwarter wedi un - saith a chwarter oedd hynny.
"Bu newid mawr dros y blynyddoedd. Pan es i lawr am y tro cyntaf, gweithio gyda cheffylau oedda ni.
"Roedd rhwng 30 a 40 o geffylau pan es i lawr gyntaf. Roedd y ceffylau aeth i lawr y Parlwr Du byth yn dod i fynnu tan oeddynt yn ymddeol neu doedda' nhw methu gweithio nhw.
"Roedd ambell i geffyl na fyddai'n gweithio a rhai ohonynt yn wyllt. Ond roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio.
"Yn ystod y gwyliau doedd y ceffylau ddim yn dod i fynu, ond roedd rhywun hefo nhw o hyd.
"Pan oedd ceffyl yn cael ei ladd, roedd y glowyr yn teimlo fwy am y ceffyl na fuasai nhw pe byddai dyn wedi ei ladd!
"Pan nes i ddechrau roedd rhwng 600 a 700 yn gweithio yn y Parlwr Du. Tua 250 oedd yn gweithio pan gaeodd y pwll.
"Nes i orffen tua 1983, yn ymddeol yn gynnar yn 60 oed.
"Roedd lot o hwyl i'w gael, er bod problemau pan oedd pethau'n mynd o'i le."