成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Celfyddydau
Bedd Richard Wilson
Richard Wilson

Ganwyd: 1 Awst 1712 neu 1713

Magwyd: Machynlleth

Addysg: Addysgwyd gartref


Arlunydd a oedd yn un o sylfaenwyr y grefft o baentio tirluniau ym Mhrydain.

Ydych chi erioed wedi meddwl pwy baentiodd yr arwydd sy'n crogi y tu allan i dafarn 'We Three Loggerheads' ger yr Wyddgrug? Yr arlunydd Richard Wilson, oedd yn cyd-oesi ag arlunwyr fel Syr Joshua Reynolds, a baentiodd arwydd gwreiddiol y dafarn.

Cyfrifir Wilson fel arloeswr ym maes paentio tirluniau ym Mhrydain ac roedd yn un o sylfaenwyr yr Academi Frenhinol.

Deuai'n wreiddiol o Benegoes ger Machynlleth ond symudodd i'r Wyddgrug pan fu farw ei dad, ficer Penegoes. Roedd ganddo gysylltiadau 芒 Sir Fflint ar ochr ei fam, Alice, a oedd yn ferch i George Wynne o Goed Llai.

Arwydd tafarn We Three Loggerheads Dangosodd dalent fel arlunydd o oedran cynnar ac yn 1729 aeth i Lundain i astudio a dechreuodd ei yrfa fel paentiwr portreadau.

Astudiodd yn Fenis a Rhufain rhwng 1750 a 1757 a dechreuodd baentio tirluniau ar gyngor yr arlunydd Eidalaidd, Francesco Zuccarelli.

Daeth yn 么l i Lundain yn 1757, cyn dechrau ar ei gyfnod mwyaf cynhyrchiol a barodd rhwng 1760 - 1768. Yn ystod y cyfnod hwn y cyfrannodd at sefydlu'r Academi Frenhinol.

Paentiodd nifer o olygfeydd o Gymru a Lloegr. Ymysg ei luniau o Gymru mae paentiadau o Eryri, Cader Idris a Chastell Caernarfon. Comisiynwyd Wilson i baentio dau dirlun lleol gan y tirfeddiannwr Syr Watkin Williams-Wynne yn 1769: 'Golygfa ger Wynnstay' a 'Chastell Dinas Bran o Langollen'. Mae'n debyg bod cysylltiad teuluol rhwng Wilson a Williams-Wynne ar ochr ei fam.

Ond tawel fu'r gwaith wedi hynny a bu Wilson yn bur dlawd er y lleddfwyd ar y tlodi pan gafodd swydd fel Llyfrgellydd yn yr Academi Frenhinol yn 1776.

Ysgrifen ar fedd Richard Wilson Yn 1781, mae'n bosib oherwydd salwch, daeth Richard Wilson yn 么l i fyw i ardal yr Wyddgrug. Bu farw ym mhlasty Colomendy, Llanferres, ar 11 Mai 1782 a chafodd ei gladdu nesaf at ei fam ym mynwent eglwys ysblennydd y Santes Fair yn yr Wyddgrug. Mae ei feddrod ger y fynedfa gefn i'r eglwys (uchod).

Erbyn ei farwolaeth roedd wedi colli bri fel arlunydd ac ychydig iawn o baentio roedd wedi ei wneud yn ei flynyddoedd olaf. Ond erbyn heddiw, mae'n cael ei ystyried yn ffigwr canolog yn hanes paentio tirluniau ym Mhrydain a chydnabyddir i'w waith ddylanwadu'n drwm ar nifer o arlunwyr enwog fel JMW Turner a John Constable.

Mae ei waith i'w weld yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd, casgliad y Tate, Canolfan Yale ar gyfer Celf Prydeinig yn yr Unol Daleithiau, yr Amgueddfa Brydeinig a chasgliad Ford, Llundain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy