成人快手

Archdderwydd newydd - dillad newydd.

Pigion Pontcanna - Sadwrn

Dyddiadur diwedd wythnos o Eisteddfod 2008

O naw i dri

Siomedig oedd y ffigurau mynediad ddoe.
Y naw yr oeddem yn s么n amdanynt ym Mhigion Pontcanna ddoe i lawr i dri.

Fu yna ffrae tybed? Ynteu efallai i chwech fynd i gerdded siopau am ddiwrnod.

Ta beth, ddoe oedd y diwrnod mwyaf poblog o bob un ar y maes gyda 27,873 wedi dod drwy'r giatiau - y nifer fwyaf ers rhai blynyddoedd. Mwy na hyd yn oed Eryri yn 2005 (26,307) ac yn tra rhagori ar Abertawe (23,199) a'r Wyddgrug (23,941).

Ar un adeg yr oedd pobl yn sefyll yn rhes yn disgwyl mynediad a swyddogion Steddfod yno'n eu perswadio i fod yn amyneddgar.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl yr oedd hwyliau da iawn ar Elfed Roberts y Prif Weithredwr a Hywel Wyn Edwards y Trefnydd.

Hh3>Llif olaf

Ond roedd heddiw, dydd Sadwrn, yn ddiwedd anhaeddiannol iawn i bethau gyda'r fath law fyddech chi'n synnu dim gweld Ms Pinc yn hwylio tua'r Bae ac allan i'r mor.

Diwrnod i stondinwyr agor yn hwyr a chau'n gynnar a mynd adref.

Trueni mawr - diolch mai'r corau niferus oedd yn cystadlu a hynny'n help i barchuso nifer yr ymwelwyr am y diwrnod - ond dim digon i wneud hon y Steddfod fwyaf poblog ers Eryri wrth i lif y glaw atal llifr ymwelwyr lleol.

Chwaraeon

A hithau'n Sadwrn gwell cael rhyw gyfeiriad at chwaraeon.

Ac yn wir yr oedd yna gwis chwaraeon yn y Babell L锚n o bobman, ddydd Sadwrn cyntaf yr 糯yl.

Tybed ydi hwn yn gwestiwn allwch chi ei ateb?

"Mae Aaron Ramsey yn dod o Gwm Rhymni, mae'n siarad Cymraeg, bu'n chwarae i Gaerdydd, ac roedd nifer o glybiau mwyaf Ewrop am ei arwyddo.
Ym mha nofel y gwelwyd stori anhygoel o debyg tua hanner canrif yn 么l?

Mae'r ateb ar waelod y ddalen.

Hem, hem, Ccamgymeriad

Archdderwydd newydd, gwisg newydd.
Dyna'r drefn a chafodd Dic yr Hendre wisgo ei wisg newydd yntau yng Nghaerdydd.

Gwisg hardd oddi allan a diddorol oddi mewn, er fymryn yn ddiffygiol.

Pwythiad anghywir

Wedi ei bwytho o'i mewn y mae gwybodaeth am ei gwneuthurwyr ac yn y blaen a ble maen nhw'n dod.

Ac yn y cyswllt hwnnw y mae Cricieth wedi ei sillafu 芒 dwy 'C'.

Rhywbeth a fyddai wedi bodloni'r diweddar W R P George efallai ond llithriad a fydd yn peri i eraill gythru am recordiad y cantorion o'r Saithdegau, Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, o Sawl C sydd yng Nghricieth.

C芒n dda oedd hi hefyd.

Prin o le Wa

Wrth i ymweliad Ms Pinc a Chaerdydd dynnu at ei derfyn mae'n golygon ninnau yn troi tua'r Bala lle bydd yr hen ledi yn ymbincio y flwyddyn nesaf.

A'r cwestiwn mawr ar wefusau pawb yw, "Lle gawn ni aros?"

Yn amddifad o Holiday Inn ac yn brin o Hiltons fydd hi ddim yn hawdd cael lle o fewn pelydr englyn i'r maes i aros.

Ac mae sawl un yn poeni nad mater o 'Ddim lle yn y gwesty' fydd hi yn Y Bala ond mater o 'Ddim gwesty yn y lle,' fel y dwedodd un hen gyfaill!

Maes Matthew

Matthew Rhys gyda'i dad a'i fam

Y cynnwrf mawr ar y Maes ddoe oedd dyfodiad Matthew Rhys i gael ei urddo'n aelod gwisg wen er anrhydedd o'r Orsedd.

Ac yn unol a'r gorchmynion Eisteddfodol ar gyfer wythnos fe ddaeth i'r maes ar fws gyda'i rieni.

Ffrae gadeiriol

Hyfryd oedd gweld mai Hilma Lloyd Edwards a roddodd ergyd bnawn Gwener i'r hyn a alwodd yr Archdderwydd yn fwgan Cadair Caerdydd.

Wrth gwrs, nid dyma'r tro cyntaf i Hilma gael ei chadeirio - mae ganddi dros gant o gadeiriau eisteddfodau bychain a bu'r seremoni rwydd a graenus ar lwyfan Pontcanna yn fodd i'w hatgoffa o seremoni fymryn yn fwy lletchwith y bu'n rhan ohoni yn Eisteddfod M么n un flwyddyn.

"Machraeth oedd yr archdderwydd," meddai. "Yr oeddwn i'n eistedd yn y gadair a'r ferch yma dod i lawr y llwybr at y llwyfan efo'r Aberthged a dyma Mair Mathafarn yn sibrwd yn uchel arnaf i;

'Chi sydd fod i gymryd hon.'

Ond dyma Machraeth yn dweud,
'Naci, fi sy'n i chymryd hi.'
'Wel naci tad, hi sydd i fod i'w chymryd hi.'

Ac roeddwn i'n dechrau meddwl y bydda'n rhaid imi fod yn reffari rhwng y ddau!"

Gwybedusion

Yn ystafell gefn y 成人快手 ar y Maes, lle'r ydym ni'n gweithio wrth ein cyfrifiaduron drwy'r wythnos, dydi o ddim yn beth anghyffredin gweld ambell i hen bry yn cerdded i mewn.

A dydw i ddim yn s么n am Hywel Gwynfryn na Gwilym Owen r诺an ond, fel sy'n naturiol a ninnau mewn cae ar lan afon, gwybed go iawn.

Ac ambell i bryf cop neu gorryn hefyd, fel mae'n digwydd.

Bosib mai chwilio am Tony Bianchi maen nhw ond eu bod wedi cymysgu Steddfod.

Rhyw gerdded ar draws y sgrin a diflannu mae'r gwybedyn ond yn dod yn 么l mor selog a minnau bob dydd.
Wel, rwy'n cymryd mai'r un gwybedyn oedd e, mae'n anodd dweud gyda gwybed.

Rhyw ddisgyn o'r awyr fel aelod o'r SAS fu'r pryf cop ac yntau hefyd yn trotian wedyn ar draws y sgrin.

Ar 么l y gwybedyn? Wn i ddim.
Ond dychwelai yntau bob dydd.

Ond yr hyn a'm dychrynodd i oedd fod y pry copyn fel pe byddai'n mynd mymryn yn fwy bob dydd ac erbyn ddoe doedd o ddim yn bell o chwe milimetr o un blaen coes i un arall.

Rydw i'n hoffi meddwl mai pesgi ar ddiwylliant oedd ond yn amau'r posibilrwydd o rhyw dreiglad GMaidd . p>

Ac o ofni hynny, rydw i'n reit falch ei bod hi'n amser troi am adref - ond cyn mynd dyma ateb y cwis chwaraeon:
Y nofel yw, 'Wythnos yng Nghymru Fydd' gan Islwyn Ffowc Elis.


Mae 'Pigion Pontcanna' ar gyfer pob bore o ddydd Sul ymlaen.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.