成人快手

Erin

Erin yn seren 'Little Star'

Dysgu'r trwmped mewn diwrnod

Ond pwy fydd yn pigo nesaf?

Yr her i Erin Richards, un o gyflwynwyr Mosgito, ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod oedd dysgu canu Twinkle, Twinkle, Little Star ar y trwmped cyn hanner awr wedi tri y pnawn.

Ac fe brofodd Erin yn dipyn o seren ei hun - trwy gyflawni'r her a osodwyd iddi gan ei chyd gyflwynydd, Trystan, am hanner awr wedi deg y bore ar y teledu.

"Ych chi byth yn gwybod gyda Trystan! - ac fe dreulies i'r diwrnod wedyn yn cael gwersi ac awgrymiadau gan aelodau o'r gwahanol fandiau oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod ar y diwrnod," meddai Erin sydd yr wythnos hon yn un o gyflwynwyr rhaglenni y 成人快手 o faes y Brifwyl.
"Yr oedd e'n lot o hwyl."

Erin













Ac am hanner awr wedi tri ar y teledu gwelwyd ei pherfformiad cyntaf gydag Alex ac Alun o fand Crwbin yn cynorthwyo yn y cefndir.

"Ac fe aeth pethau'n gr锚t a dim ond un nodyn ddim yn berffaith - rwy'n edrych ymlaen yn awr at ymuno a band o ryw fath fy hun," meddai Erin dan wenu.

"Mae fy nghariad mewn band roc - efallai gwnai ofyn iddo fe!" meddai.

Er ei bod yn canu'r git芒r, y delyn a'r piano dywedodd mai hwn oedd y tro cyntaf iddi geisio canu offeryn chwyth."

"Yr oedd e ychydig yn haws nag oeddwn i wedi ofni," meddai, "unwaith yr oeddwn i wedi dysgu cyffyrddiad y gwefusau."

"Ac yr oedd Trystan, sy'n chwarae'r tromb么n wrth ei fodd. Yn eithaf impressed," meddai.

Ond gwrthododd Erin ddatgelu a fydd hi'n ceisio talu'r pwyth yn 么l yn ystod yr wythnos am yr her annisgwyl.

"Dwi ddim am ddweud - ond mae e yn syniad. Gwyliwch chi!

Arwydd nad oes wybod gyda chriw Mosgito pwy fydd yn pigo nesaf!


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.