成人快手

John Walter Jones

Dirgelwch y garaf谩n!

Welsoch chi garafan Eisteddfod '78?

Aelod o Bwyllgor Gwaith '78 yn cofio'r hwyl

Does neb wedi ei gweld ers y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒 Chaerdydd.

Caraf谩n yn lliwiau'r Urdd a gafodd ei dwyn ar ddiwedd yr Eisteddfod oddi ar y maes parcio, rhwng nos Sadwrn a bore Sul!

John Walter Jones - yr unig aelod o bwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 a oedd hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith yr Eisteddfod yn 1978 - fu'n son wrthym am garaf谩n y bu'n chwlio amdani am 30 mlynedd!

Hel arian

Un o gyfrifoldebau y Pwyllgor Gwaith yr adeg honno oedd y meysydd parcio.

"Ac fe wnaethom ni, fois ifanc Canolfan yr Urdd Caerdydd benderfynu ein bod ni'n mynd i wyrdroi y drefn Eisteddfodol o symud arian Cymru allan o Gymru i goffrau anghymreig drwy roi cais i mewn am redeg y meysydd parcio - a dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd er ei fod o'n beth cwbwl naturiol heddiw fod criwiau lleol yn gwneud hynny i godi pres i fudiadau lleol," meddai John a oedd yn was sifil ifanc yn y Swyddfa Gymreig yn 1978.

"Fe lwyddo ni i godi sawl mil i Ganolfan yr Urdd Caerdydd a chymaint oedd ein hyder ni erbyn y dydd Sadwrn olaf ein bod ni wedi parcio ceir ar si芒p ac ar liw bathodyn yr Urdd - roedd yna ddigon o geir gwyrdd yr olwg, a choch a gwyn neu arian inni fedru gwneud triongl yr Urdd ar lethr uwchben y maes parcio," meddai.

"Ond yn anffodus, pan aethom ni yno y bore Sul i glirio ar ein holau roedd rhywun wedi dwyn ein caraf谩n lle'r oeddem yn 'mochel a chael paned yn ystod yr wythnos!

"A dwi di bod yn mynd o gwmpas Cymru am ddeng mlynedd ar hugain yn gobeithio gweld y garaf谩n lliwiau'r Urdd a llun Mr Urdd ar ei hochr hi.

"Ond welais i erioed mohoni hi a dydw i ddim yn meddwl i neb arall ei gweld hi chwaith ond bob tro byddai'n trafaelio Cymru rydw i'n cadw fy llygad yn agored amdani," meddai.

Gosod seddau

Cyfrifoldeb arall a syrthiodd ar uysgwyddau Pwyllgor gwaith 1978 oedd gosod y seddau yn hen bafiliwn pren yr Eisteddfod.

"A dydw i ddim yn s么n am jyst eu gosod nhw ar y llawr ond roedd angen eu sgriwio nhw bob un i lawr pren! Mi gymrodd hynny sawl penwythnos - ond mi gawsom ni lot o hwyl yn ei wneud o," meddai.

Dywedodd mai ym Mhentwyn, y tu allan i'r Brifddinas, yr oedd yr Eisteddfod honno a'r safle hwnnw bellach wedi ei orchuddio gan dai.

"Ond roedd yna gwyno nad oedd pobl yn gwybod bod yna'r fath beth a Steddfod Genedlaethol," meddai.

"Ac mae yna gwyno'r wythnos yma nad oes yna ddigon o arwyddion ac mae hynny'n dristwch mawr oherwydd dwi'n credu bod cyfle drwy'r Steddfod i ni ddangos i eraill beth yda ni'n llwyddo i'w wneud a dangos amrywiaeth y diwylliant a bod croeso i bawb," meddai John Walter Jones a fu wedi 1978 yn Brif Weithredwr cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ar hyn o bryd yn gadeirydd Awdurdod S4C.

"Doedd y cyfrifoldeb ar y pwyllgor gwaith y tro yma ddim chwarter beth oedd o cynt," meddai.

Ymhlith aelodau eraill y pwyllgor hwnnw yr oedd Alun Michael a oedd yn gynghorydd ifanc ar Gyngor y Ddinas.

Y cadeirydd oedd Emyr Currie Jones, cynghorydd Llafur ar Gyngor y Ddinas.

Eisiau Cant卯n

"Aelod adnabyddus arall oedd yr undebwr llafur Dai Francis.

"Y fo'n dweud mewn un cyfarfod fod angen 'cant卯n' ar y Maes a rhywun yn dweud wrtho fod yna le i gael paned - ond yr hyn yr oedd Dai yn ei olygu wrth gant卯n oedd lle i'r bois gael peint!

"Dai o flaen ei amser yn gofyn am gant卯n. Mae'r cant卯n wedi cyrraedd ond welodd Dai Francis mohono fo."

"Os oeddech chi'n 诺r ifanc fel yr oeddwn i yr adeg honno yr oedd cydweithio efo pobl fel Dai Francis yn brofiad gwirioneddol yr ydw i wedi ei werthfawrogi dros y blynyddoedd .

"Yr oedd o'n werth ei gael ac mi fuaswn i'n cymell unrhyw un ifanc sy'n cael cyfle i fynd ar bwyllgor gwaith i fynd achos mae'n help i ddod i adnabod Cymru a dod i adnabod y Steddfod Genedlaethol.

"Mae yna angen mwy o bobl ifanc i gymryd diddordeb ymarferol yn lle'n bod ni'n ei adael i nghenhedlaeth i.

"Wrth gwrs, maen nhw'n cymryd rhan mewn cystadlu ac ati ond mae yna ochr arall iddi hi hefyd," meddai.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.