成人快手

Bws

Sut i gyrraedd y Maes

Roedd y cyfarwyddiadau isod yn berthnasol cyn ac yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym mis Awst 2008.

Does dim meysydd parcio yn agos at faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. Mae gwasanaeth 'Parcio a Theithio' yr Eisteddfod yn ardal bae Caerdydd - dilynwch yr arwyddion "Parcio a theithio" yr Eisteddfod ar gyfer y meysydd parcio (gweler isod).

Gall pobl deithio mewn nifer o ffyrdd eraill, gan gynnwys ar dr锚n, bws, beic, ar droed, tacsi, defnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio neu rannu car.

Mae prif fynedfa i safle'r Eisteddfod i'r gogledd o Stadiwm SWALEC, ar Limetree Avenue. Mae ail fynedfa i bobl sy'n cerdded dros y bont droed o gyfeiriad Blackweir. Mae hyn yn arbennig o addas i unrhyw un sy'n defnyddio Taith Taf neu yn dod o Gabalfa, Tal y Bont, neu o faes carafannau'r Eisteddfod yn Blackweir.

Trenau a bysiau

Mae trenau yn cyrraedd ac yn gadael Gorsaf Ganolog Caerdydd neu Orsaf Stryd y Frenhines. Gall ymwelwyr gerdded am 10-20 munud i'r Maes, neu fynd ar gefn beic, cymryd tacsi neu'r bws. Bydd yna arwyddion ar gyfer y rhai sydd yn mynd ar droed o Orsaf Ganolog Caerdydd. Gall llefydd i gadw beiciau ar y tr锚n gael eu harchebu o flaen llaw (heblaw bod gennych feic sy'n plygu), a bydd angen rhoi gwybod i'r gweithredwr trenau cyn teithio.

Os ydych am deithio ar fws i ganol y ddinas, mae yna rwydwaith eang o wasanaethau bysiau, wedi eu darparu gan Bws Caerdydd, Stagecoach a Veolia.

I fynd tuag at faes yr Eisteddfod ar fws o ganol y ddinas, defnyddiwch wasanaethau 25, 62 a 62A Bws Caerdydd; gwasanaethau 122 a 124 Stagecoach; rhif 32 Veolia; a gwasanaeth 320 Easyway. Mae'r rhain i gyd yn teithio ar hyd Heol y Gadeirlan (Cathedral Road), ac yn aros ger Gerddi Sophia.

Am fanylion pellach am yr holl wasanaethau bysiau a threnau sydd ar gael, cysylltwch 芒 Traveline ar 0871 200 22 33, neu ewch i'r wefan.

Beic

Bydd 400 o lefydd i barcio beiciau ar gael yn agos i brif fynedfa Maes yr Eisteddfod, a bydd y Maes yn hygyrch o'r Llwybr Taf a rhwydwaith o lwybrau beiciau. Mae mapiau beicio ar gael o flaen llaw o Ganolfan Groeso Caerdydd yn yr Aes (Hayes) yng nghanol y ddinas, ac o stondinau ar Faes yr Eisteddfod. Hefyd, gall beicwyr edrych ar y map ar lein.

Cerdded

Os ydych yn byw neu'n aros yn lleol, efallai y gwnewch chi ystyried cerdded i'r maes. Mae yna ddigonedd o balmantau a chroesffyrdd i gerddwyr yn yr ardaloedd o gwmpas y maes. Gallwch gerdded i'r Maes o ganol y ddinas trwy Parc Bute, ger Castell Caerdydd.

Tacsi

Mae tacsis a llogi cerbydau preifat ar gael ar draws y ddinas. Mae gan dacsis arwyddion ar y to a gallwch eu dal yn y stryd, neu o safleoedd tacsis penodol. Does gan cerbydau llogi preifat ddim golau ar y to a does dim modd eu stopio yn y stryd, mae'n rhaid archebu un o flaen llaw. Mae'r safleoedd tacsis penodol wedi lleoli yn y llefydd canlynol: Gorsaf dr锚n Canolog Caerdydd, Stryd Santes Fair, a Ffordd Greyfriars.

Parcio a Theithio

I ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio, dylai gyrwyr ddilyn yr arwyddion ffyrdd i mewn i Gaerdydd (ar yr A48 a C33 o'r M4). Bydd yr arwyddion yn cyfeirio'r traffig i'r meysydd sydd ar gael pan rydych yn cyrraedd y ddinas. Cost y gwasanaeth parcio a theithio yw 拢3 y car am y dydd. Mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 7.30yb i 11.30yh. Bydd bysiau yn cludo teithwyr o'r maes parcio, i'r maes, yn gyson.

Ymwelwyr anabl

Bydd ymwelwyr anabl yn gallu defnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn darparu cyfleusterau teithio i'r rhai sy'n cael anhawster cerdded i brif fynedfa'r Eisteddfod, o Erddi Sophia.

Rhannu car

Mae'n bosib i arbed arian trwy rannu car i deithio i ganol y ddinas, neu i deithio i'r meysydd parcio a theithio. Mae cwmni Sewta yn gweithredu cynllun cyhoeddus i gyflenwi gwasanaeth paru electronig sydd yn rhad ac am ddim. I gofrestru, ewch i'r wefan.

Lle bynnag mae'n bosib, ddylech anelu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i fewn i'r ddinas. Os ydych yn teithio mewn car, yna mae rhannu car yn syniad da. Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i gerdded, beicio neu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y Maes.

Mae mapiau trafnidiaeth ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.


Lluniau

Dawnswyr

Lluniau diweddaraf

Lluniau o faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

厂别谤别尘辞苍茂补耻

Coroni

Coroni

Clipiau fideo o brif seremon茂au Eisteddfod Caerdydd 2008.

Eisteddfod 2009

Pafiliwn pinc

Y Bala

Canlyniadau, clipiau fideo, straeon a mwy o Eisteddfod Bala 2009.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.