成人快手

[an error occurred while processing this directive]

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
[an error occurred while processing this directive]

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

[an error occurred while processing this directive]
Baner Araith cyhoeddi Caerdydd 2008
Anerchiad Selwyn Iolen yn gyflawn -
Mehefin 16, 2007.
Ymweliadau 芒 Chaerdydd
Syndod i mi oedd sylwi mai dim ond teirgwaith y bu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ystod y ganrif ddiwethaf - a dim ond dwywaith cyn hynny.

Ac yn ystod y pum tro y bu'r Brifwyl yma,- dim ond ar un achlysur y cafwyd teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair.

A dwi'n falch o gael dweud mai un ohonom ni'r Gogs a gadeiriwyd - y diweddar brifardd Gwilym R Jones yn 1938.

Mae'r Urdd wedi penderfynu cynnal ei Phrifwyl yma yn y brifddinas bob pedair blynedd - dydw i ddim am awgrymu y dylai'r Eisteddfod Genedlaethol ddod yma mor aml 芒 hynny ond dwi'n mawr obeithio y daw hi yma yn amlach oherwydd fe ddylem fel cenedl ymgynnull yn ein prifddinas yn amlach na theirgwaith mewn canrif.

Bywyd Cymraeg Caerdydd
Mae mwy o fywyd cymdeithasol Cymraeg i'w gael y dyddiau hyn yng Nghaerdydd a'r Cylch nag a geir mewn rhai o ardaloedd Cymreiciaf Cymru.

Mae 'na nifer helaeth o'n pobl ifanc ni yn dylifo o'n hardaloedd gwledig yma i'r Brifddinas. Dod yma i ddilyn cwrs coleg. Mwynhau bywyd a chyfleusterau y ddinas. Ymuno 芒 chymdeithasau a'r corau.

Mae yna fwy o gyfle yma i gael swyddi diogel a diddorol. Setlo i lawr yma, priodi a magu teulu.

A phwy w锚l fai arnyn nhw?
Yn wir, petawn i yn fy ugeiniau cynnar heddiw, fe gawn innau fy nhemtio o bosib i gymryd yr un camau.

Mae'r mewnlifiad hwn yn naturiol yn cyfoethogi bywyd Cymreig y brifddinas ond ar yr un pryd rydan ni y sylweddoli'r golled yn ein hardaloedd gwledig.

Ac oherwydd y brwdfrydedd sydd ymysg y Cymry ifainc sy wedi setlo i lawr yma yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae ganddo chi sylfaen gadarn i sicrhau prifwyl lwyddiannus y flwyddyn nesaf.

Bwrlwm eisteddfodau bychain
Ac o s么n am eisteddfod, gaf i dalu teyrnged i Gymdeithas Eisteddfodau Lleol Cymru am yr ymdrech i sefydlu eisteddfodau newydd yn enwedig yma yn ne Cymru - a dwi'n deall bod yna obaith sefydlu eisteddfod flynyddol yma yng Nghaerdydd yn y dyfodol agos. Da clywed hyn, oherwydd ychydig iawn o drefi a dinasoedd Cymru sy'n cynnal eisteddfodau.

Mae'r diolch i'r pentrefi gwledig am gynnal a chadw'r traddodiad eisteddfodol yn fyw a hynny'n amI yn wyneb anawsterau a diffyg cefnogaeth.

Fe sefydlwyd Cymdeithas Eisteddfodau Lleol Cymru tua wyth mlynedd yn 么l a bellach mae 106 o eisteddfodau yn aelodau o'r Gymdeithas.

Ys gwn i ai Caerdydd fydd y gant a seithfed.

Rhaid i mi gyfaddef, o ymweld 芒 nifer o eisteddfodau lleol yn y gogledd yn ystod y flwyddyn i mi deimlo rhyw frwdfrydedd a ryw adfywiad arbennig mewn nifer ohonyn nhw.

Mae to ifanc o gystadleuwyr addawol yn crwydro o steddfod i steddfod i fwrw eu prentisiaeth ac i feithrin eu talentau .Gresyn fod cymaint o seddau gweigion mewn amryw o'r eisteddfodau lleol. Gaf i ofyn yn garedig y prynhawn 'ma. faint ohonoch chi aelodau'r Orsedd ac aelodau i Gyngor yr Eisteddfod ac aelodau o Lys yr Eisteddfod; faint ohonoch chi fu mewn eisteddfod leol o fewn cyrraedd i'ch cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'ma?

Mi wn i fod 'na ffyddloniaid yn eich mysg chi hefyd ond prin iawn ydyn nhw.

Rydan ni'n ffodus yn y gogledd acw fod y Daily Post yn cofnodi hanes a chanlyniadau pob eisteddfod leol a diolch i'r Cymro hefyd am gynnwys lluniau o rai o'r eisteddfodau gwledig.

Cynnydd dysgwyr
Mae fy nhymor i fel Archdderwydd yn prysur ddod i ben. Tydi tair blynedd yn fflio heibio? Un o'r profiadau mwyaf dymunol a ddaeth i fy rhan i oedd cael cyflwyno y gwobrwyon yng nghystadlaethau l1enyddol y dysgwyr bob blwyddyn ac mae'n ddiddorol sylwi ar y cynnydd sydd wedi hod yn nifer y cystadlaethau a'r cystadleuwyr yn yr adran lenyddol er pan fu'r brifwyl yma ddiwethaf yn 1978.

Un gystadleuaeth oedd i'r dysgwyr yn 1978 a dim ond saith yn cystadlu a dim ond dwy dudalen yn y gyfrol Cyfansoddiadau.

Y llynedd yn Abertawe, roedd 'deg cystadleuaeth a 136 o gystadleuwyr a 27 o dudalennau yn adran y dysgwyr yn y Cyfansoddiadau.

A chyda l1aw cerdd ar y mesurau caeth yn ennill Cadair y Dysgwyr.

Cynnydd sylweddol ac, wrth gwrs, gallwn ymfalch茂o fod yr Eisteddfod yn llwyddo i ddenu dysgwyr ond rhaid inni gofio; o'r ugain mil sy'n dilyn cyrsiau i ddysgu Cymraeg, dydi hynny ddim ond un y cant o'r oedolion nad ydynt yn siarad Cymraeg yng Nghymru.

Mae dyfodol ein hiaith yn dibynnu llawer iawn mwy ar ein plant a'n pobl ifanc ni nag ar yr oedolion sy'n ymdrechu ac yn llwyddo i ddysgu'n hiaith ni.

Cymraeg iard yr ysgol
Llawenydd ydi deall fod yna gymaint o rieni yma yng nghymoedd y de ac yn y brifddinas sy'n awyddus i'w plant gael addysg Gymraeg - ond y tristwch ydi nad oes digon o le yn yr ysgolion ar eu cyfer nhw, gyda'r canlyniad bod rhai dosbarthiadau yn cael eu cynnal mewn ysgolion lle mae'r Saesneg yn iaith gyntaf.

A dyna'r broblem.
Hyd yn oed yng Ngwynedd, ble mae'r Gymraeg ar ei chryfaf, a'r plant a'r dysgwyr yn siarad Cymraeg o fewn y dosbarth, mae iaith y buarth yn troi i'r Saesneg mewn sawl ysgo1.

Os ydi plant yn chwarae drwy gyfrwng y Saesneg yna dydi'r Gymraeg ddim yn iaith fyw iddyn nhw.

Cymraeg yn y dosbarth-- Saesneg ar y buarth. Cwbwl groes i ddyddiau'r Welsh Not. Does na ddim pwrpas dysgu iaith heb wneud pob ymdrech i'w defnyddio hi. ar bob achlysur.

Ydi mae'n bwysig dysgu 'r iaith ond mae'n bwysicach ei defnyddio hi.

Marw fydd tynged iaith oni ddefnyddir hi a brwydr galed fydd hi o sefydlu dosbarthiadau Cymraeg mewn ysgolion ble mae'r Saesneg yn iaith gyntaf.

P锚l-droedwyr mud
Ga i gloi drwy ddweud hyn:
Dau brif ddiddordeb sy gen i, - Steddfota a ph锚l-droed. Roeddwn i wedi gobeithio medru dweud [pe na byddai'r tywydd wedi gorfodi newid yn y trefniadau] ein bod ni o fewn cic gosb go lew i Stadiwm y Mileniwm ac onid ydi o'n hen bryd i'r bechgyn a anrhydeddir drwy gael y fraint o wisgo'r crys coch ddysgu geiriau ein hanthem genedlaethol ni a'i chanu gyda balchder ar ddechrau pob g锚m.

Chware teg i fechgyn y b锚l hirgron, mae nifer go dda ohonyn nhw yn gwneud ymdrech.

Efallai bod Ray o'r Mynydd a Robyn o F么n wedi siarsio nhw i wneud hynny.

Ond mae bechgyn y b锚l gron yn sefyll yno mor fud a physt g么l ac mae'n hen bryd i rywun ddeud wrthyn nhw am ymfalch茂o yn y ffaith eu bad nhw yn cael y fraint o gynrychioli ein gwlad ni ac fe ddylen nhw ddangos hynny.
Gwisg genhinen yn dy gap - a gwisg hi yn dy galon.



  • [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy