| |
Dyddiadur Maes B - 5
Dyddiadur Lowri Johnston
Mae wedi bod yn ddiwrnod crasboeth heddiw ac felly o'n i'n ddigon bodlon i adael y babell a mynd draw i'r maes at y 成人快手.
Anodd yw canolbwyntio yn y gwres ond dwi'n gorffen mewn digon o amser i gael cinio gyda fy ffrindiau ac yna draw at y babell roc (heddiw eto!) i gael blas ar ychydig o gerddoriaeth y dydd.
Mim Twm Llai sy'n chwarae pan dwi'n cyrraedd, ac mae'r babell yn llawn. Dim ond diwedd y set dwi'n glywed, cyn bo Bysedd Melys yn chwarae.
Gwelais i Bysedd Melys y llynedd ym maes B ac o'n i'n hoff iawn ohonyn nhw, felly dwi'n falch i'w gweld nhw eto heddi. Er bod gitarydd ar goll, maen nhw'n chwarae yn dda iawn - yn enwedig ar y sacsoffon.
Cawn ganlyniad Brwydr y Bandiau wedyn - a Bechdan Jam - enillwyr Brwydr Uned 5 - sy'n mynd 芒 hi, gyda Mattoidz a Lira Fyn yn dod yn agos i'r brig. Ond er bod y gerddoriaeth yn wych yn y babell roc, dyw e ddim yn ddigon i'n nghadw i yno gan ei fod mor anioddefol o dwym.
Crwydro'r maes felly i gael gweld beth sydd ar gael, a gweld Anhysbys ac Eryr sy'n chwarae setiau acwstic ym mhabell Bwrdd yr Iaith.
N么l i'r babell roc wedyn i gael lluniau o Meic Stevens. Mae'n dal rhy dwym i aros yno felly n么l i'r babell i ymlacio ychydig cyn y gig yn y nos.
Cyrhaeddodd fy mrawd i heddiw gyda llawer o fwyd felly rydyn ni gyd yn llenwi'n boliau tra'n torheulio ychydig. Mae'r maes pebyll bron yn llawn nawr - llawer iawn wedi cyrraedd heddiw. Pan gyrhaeddon ni dydd llun doedd dim llawer o bebyll yno ond nawr mae nhw o'n cwmpas ni ym mhobman!
Ond mae'r awyrgylch yn gr锚t - dwi'n siwr bod y tywydd twym yn helpu.
Draw i'r gig ym maes B wedyn i weld y bandiau, ac mae'n noson wych o gerddoriaeth. Mae dau lwyfan ar faes B heno ac felly rydyn ni'n treulio'r noson yn rhedeg rhwng un llwyfan a'r llall! Mozz sy'n agor y noson - band ifanc o Aberystwyth. Rwy'n cael hwyl yn cyfweld y band ar gyfer yr adolygiad cyn mynd i weld Meinir Gwilym ac yna, uchafbwynt y noson (ac efallai, yr wythnos i mi hyd yn oed) - Anweledig.
Rydw i a'n ffrindiau yn sefyll reit yn y blaen yn y canol ac mae'r awyrgylch yn drydanol. Mae pawb yn dawnsio'n wyllt ac mae Anweledig ar eu gorau heno. Rydyn ni gyd yn ffans mawr o Anweledig felly ni'n joio mas draw!
Mae Anweledig yn wych yn fyw, ac mae nhw'n cyfathrebu'n dda gyda'r gynulleidfa. Mae'r set yn gorffen tua hanner awr wedi dau y bore a dwi wedi blino'n lan!
Ond rydyn ni dal yn mynd i'r goelcerth i gymdeithasu ychydig cyn mynd i'r gwely. Mae'n boeth ofnadwy ar bwys y t芒n, yn enwedig wrth i fwy a mwy o bethau gael ei daflu arno.
Mae wedi bod yn ddiwrnod gr锚t ac yn wych heno ym maes B ond dwi wir yn falch o gael cyrraedd fy ngwely. O'r diwedd - cwsg!
|
|
|
|