Gwilym Owen - tameidiau Mawrth
Sylwadau dyddiol Gwilym Owen - y dyn sy'n clywed y cyfrinachau i gyd. Ac yn eu rhannu wedyn!
Fforwm yn y ffwrn
Henffych ar fore Mawrth o faes Mathrafal ym Meifod. Mae rhywun yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd ar faes y Steddfod. Ddoe, fe gyhoeddwyd fod yna griw syn ei alw ei hun yn Fforwm sef grwp polisi ac ymchwil o Ogledd Penfro a Cheredigion wedi bod yn cyfarfod ers tair blynedd cofiwch i drafod argyfwng y cymunedau gwledig Cymreig.
Eu bwriad ydi chwilio am ysbrydoliaeth o bob rhan or byd a herior ystrydebau. A rŵan mae nhw am gynnal Cynhadledd fawr yn yr hydref i gyflwynor hyn maen nhwn ei alw yn freuddwyd cadarnhaol llawn gobaith.
A wyddoch chi pwy fydd y prif siaradwyr, wel neb llai nag Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad ar Arglwydd Elis Thomas y Llywydd.
A bydd ffigurau amlwg or byd darlledu yn cyflwyno a chadeirior sesiynau.
Wel, sei no m么r ys dywed yr hen air!
Rhai yn absennol
Cwestiwn bach ymarferol rŵan.
O ble y daeth bownsars ar dynion diogelwch sy ar y maes yma lenni? Mae lle i gredu nad oes yna ddim llawer o fwynder Maldwyn yn eu heneidiau nhw yn 么l pob tystiolaeth.
A beth sydd wedi digwydd i agwedd golygyddol y Western Mail tuag at y Brifwyl? Does dim golwg o golofnau arbennig arferol Hafina Clwyd ar Parchedig W. J. Edwards or maes. Falla cawn ni esboniad gan Olygydd Cymraeg y rhecsyn o Gaerdydd.
Ac ir rhai ohonoch chi syn meddwi ar barabl yr Athro Hywel Teifi Edwards yn y Brifwyl, wel gwnewch yn fawr och cyfle heddiw yn y Babell L锚n. Dim ond unwaith maer Athro yn deud ei ddeud lenni.
Tipyn o newid o gofior blynyddoedd diwetha ma.
Cyfryngiaith
Maen ymddangos fod yna fwy o gyfryngis nag erioed ar faes y brifwyl hon ac o gofio safon iaith nifer fawr ohonyn nhw gaf i awgrymu y dylair cloffion ieithyddol yma syn byw ar iaith y nefoedd wneud ymdrech y pnawn ma i fynd i wrando ar ddarlith y Parchedig Huw Jones ar Gyfoeth Dywediadau Hen Yd y Wlad. Ddeuda i ddim mwy.
Standio'i fyny
O s么n am iaith maen amlwg nad ydyr rheol Gymraeg yn cael y parch dyladwy ar Faes C yr Eisteddfod. Heno, noson y Stand yps ydi hi yn Neuadd y Dref Trallwng. Yn 么l yr hysbys noson lle mae arloeswyr stand yp Cymraeg yn 么l gydai gilydd ydi hon. Ond be ar wyneb y ddaear ydi stand yp yn iaith y nefoedd.
Os nad oes gair wel bathwch un.
0 am fendith
Ac yn olaf gaf i longyfarch Cwmni ff么n symudol O2. Maen amhosib defnyddio ei bali petha nhw ar y maes yma, er bod cwsmeriaid cwmn茂au Orange a Vodafone yn cael gwasanaeth llawn.
Petawn in cael fy ffordd byddai pob un or tacle swnllyd anghymdeithasol yn cael eu gwahardd o faes ein Prifwyl yn gyfangwbl.Tan bore fory, gweinier y cledd.