|  |
 Cerdd a phryd sydyn i aelodau'r Cynulliad
Bydd criw o feirdd bro'r Eisteddfod yn cyfansoddi cerdd i'r Cynulliad Cenedlaethol bob yn dipyn yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Ac mae posibilrwydd y bydd y gerdd orffenedig yn cael ei fframio i'w harddangos yn swyddfa prif weinidog y Cynulliad yng Nghaerdydd.
Rhan o weithgarwch pabell Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r fenter farddonol gydweithredol gan d卯m Talwrn Bro Ddyfi.
Bydd y llinellau cyntaf yn cael eu cyfansoddi ddydd Llun gan Hedd Bleddyn ac wedyn bydd Ann Fychan, Tegwyn Jones, Gwilym Fychan a Dafydd Wyn Jones yn ychwanegu eu llinellau hwythau bob yn ddiwrnod.
Dywedodd Ceri Edwards ar stondin Llywodraeth Cynulliad Cymru y bydd cyfle ei eisteddfodwyr eraill gynnig cerddi hefyd ac y mae yna wal graffiti yn y stondin.
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn barod i bobol fod yn ddychanol gyda'u cyfraniadau.
"Y nod ydi ei gwneud Llywodraeth y Cynulliad yn groesawus fel y bydd pobol yn ei chael yn hawdd i fynegi eu teimladau i wleidyddion. Weithiau mae pobl yn gallu bod dipyn yn swil," meddai.
Yn ystod yr wythnos hefyd bydd rhai o weinidogion y Cynulliad yn paratoi prydau bwyd yn null y rhaglen deledu Saesneg, Ready Steady Cook gan gynnwys Rhodi Morgan ei hun am dri o'r gloch bnawn Llun.
"Ond dyad ni ddim yn gwybod beth fydd y pryd eto," meddai Ceri.
Ddydd Mercher am unarddeg y bore bydd Jane Hutt a Jane Davidson yn troi eu llaw hwythau at wneud bwyd.
"Yr ydym yn gobeithio y bydd yr holl weithgareddau hyn yn dangos ein gwleidyddion mewn goleuni gwahanol ac yn gwneud i bobl deimlo ei bod yn hawdd siarad 芒 nhw," meddai Ceri.

|
|
|
|