Beirniadaeth y Goron - Iwan Llwyd
02 Awst 2010
Cafodd barn Iwan Llwyd ei hystyried wrth feirniadu cerddi'r Goron
A fydd yna goroni neu beidio ym Mlaenau Gwent bydd elfen o dristwch dros y seremoni eleni yn dilyn marwolaeth Iwan Llwyd, un o'r beirniaid.
Ond er i Iwan farw cyn medru llunio ei feirniadaeth dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, bod ei farn am yr ymgeision wedi ei chymryd i ystyriaeth gan y ddau feirniad arall, Mererid Hopwood a T James Jones yr Archdderwydd.
"Yr oedd y tri wedi cyfarfod ychydig iawn cyn marwolaeth Iwan ac wedi cytuno beth fyddai'r canlyniad, " meddai Hywel Wyn Edwards.
Er mai ond dwy feirniadaeth fydd yn cael eu cyhoeddi yng nghyfrol y beirniadaethau a chyfansoddiadau dywedodd y bydd T James Jones yn cyfeirio yn ei feirniadaeth ef at ymateb Iwan Llwyd.
"Fe fydd yna nodyn hefyd yn egluro pam mai ond dwy feirniadaeth sy'n cael eu cyhoeddi.
Er gwaethaf tristwch yr achlysur dywedodd Hywel Wyn Edwards bod yr Eisteddfod yn hapus i'r beirniaid fedru gweithredu ar y cyfarfod rhyngddynt ag Iwan Llwyd.
Bu farw a enillodd y Goron yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990, yn sydyn fis Mai eleni.
Mae noson Cofio Iwan wedi ei threfnu ar Faes C yng Nglynebwy nos Iau gan gymdeithas Barddas i'w gofio a dathlu ei waith ac fe'i dilynir 芒 thaith o amgylch Cymru.
Blogiau 成人快手 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...